Pryd i roi'r gorau'n syth i HRT
- Poen sydyn difrifol yn y frest neu'r gwynt yn fyr gyda haemoptysis
- Poen neu chwydd anesboniadwy mewn un goes
- Poen abdomen difrifol, clefyd melyn, hepatitis neu iau wedi chwyddo
- Pwysedd gwaed uchel (systolig dros 160mmHg neu ddiastolig dros 95mmHg)
- Bod yn ddisymud am gyfnod hir
- Effeithiau niwrolegol difrifol
- Unrhyw ffactor risg sy'n gwrtharwyddo'r driniaeth