Cyffuriau sy'n Gwella Perfformiad a Delwedd

Rhagair

Dr Greg James (Meddyg Teulu mewn Gofal Brys yng Ngwent)

Sefydlodd y Prosiect SWIPED yng Nghasnewydd gyda Joanne Hughes, Mike Mallett a Rhys Evans i sgrinio defnyddwyr IPED

Penderfynais gymryd ychydig o amser oddi wrth feddygaeth rheng flaen yn ystod fy mlynyddoedd cynnar o hyfforddiant, er mwyn cael mwy o brofiad o ofal cyn-ysbyty. Un o’r pethau a wnes i yn ystod y cyfnod hwn oedd gwirfoddoli fel meddyg tîm ar gyfer gwahanol dimau chwaraeon.

Yn ystod y cyfnod hwn, gwelais yn gyflym iawn nad oeddwn yn barod o gwbl am faint o gwestiynau a gefais, na chymhlethdod y cwestiynau hynny, mewn perthynas â Chyffuriau sy'n Gwella Perfformiad a Delwedd (IPEDau).  Nid oeddwn i, fel llawer ohonoch yn darllen hwn, ond wedi dod ar draws ychydig iawn o unigolion a oedd wedi ymgysylltu â defnyddio'r sylweddau hyn ac yn hytrach yn naïf, yn meddwl bod y defnydd yn gyfyngedig i gorfflunwyr cystadleuol mwyaf caled.

O ymdrwytho fy hun mewn chwaraeon coleg a phrifysgol, agorwyd fy llygaid i awchusrwydd y chwant am y sylweddau hyn.  Nid dim ond hynny ychwaith. Roedd y diffyg tystiolaeth a gwybodaeth am y pwnc yn amlwg, yn ogystal â’r tybiaethau lawer gan yr holl bartïon dan sylw, ac yn fwyaf brawychus, ar y gorau y diffyg hyfforddiant ac ar y gwaethaf, braw llwyr y gymuned feddygol wrth gefnogi’r cohort yma o gleifion.

Ers dechrau casglu gwybodaeth a gweithio gyda’r cohort cleifion yma, rwyf wedi gallu rhannu gwybodaeth â Phanel Grŵp Arbenigol ym maes Iechyd y Cyhoedd, y fyddin, y Gwasanaeth Carchardai, ysgolion, colegau ac amrywiaeth o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ar wahanol adegau yn ystod eu hyfforddiant.

Mae’r defnyddwyr gwasanaeth (cleifion) yn ymgysylltu ac yn ymddiddori’n fawr mewn iechyd a lles, ar y cyfan.  Maen nhw’n mynd i’r gampfa yn rheolaidd, ac mae gan y rhan fwyaf agwedd fforensig at ymarfer corff a deiet.  Efallai na fyddwch yn gallu eu perswadio i beidio â chymryd y sylweddau hyn, ond mae’n hanfodol ein bod yn gallu eu monitro a’u cefnogi fel y byddem yn ei wneud gyda rhywun sy’n ysmygu neu’n yfed alcohol, er mwyn iddynt weld yr argyfwng a ddaw o ran eu gofal iechyd yn y dyfodol, ymhell cyn i hyn ddod yn broblem sy’n cyfyngu ar eu bywyd.

Gobeithio y bydd y modiwl hwn yn ddefnyddiol ac o gymorth i chi. Mae’r pwnc hwn wedi dod yn agos at fy nghalon, ac rwyf bob amser yn barod i dderbyn cwestiynau.

Diolch am ddod yma i ddysgu rhagor.

Dr Greg James

Ysgrifennwyd y modiwl hwn gan Dr Greg James gyda chyfraniadau gan Elliot Phillips (Myfyriwr Meddygol) a Daniel Hattam (Myfyriwr Meddygol).


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau