Cynllun Cerdyn Melyn

Module created Ionawr 2019

Cyflwyniad: Cardiau Melyn

Gall pob meddyginiaeth achosi sgil effeithiau dieisiau mewn rhai cleifion. Ni fydd nifer ohonynt yn achosi fawr o niwed. Ond, bydd rhai o’r adweithiau niweidiol yma i gyffuriau (ADR) y gysylltiedig â morbidrwydd sylweddol neu hyd yn oed farwolaeth. Er mwyn ystyried bod meddyginiaeth yn ddiogel i’w rhagnodi, dylai ei fuddion disgwyliedig fod yn fwy na’r risgiau o adweithiau niweidiol cysylltiedig. Felly mae’n hanfodol monitro amledd a difrifoldeb ADRau ar gyfer unrhyw feddyginiaeth benodol.

Gall ADRau ddeillio o ddefnyddio cynnyrch sydd o fewn neu y tu allan i’r awdurdodiad marchnata e.e. o ddefnydd oddi ar y label, camgymeriadau cysylltiedig â meddyginiaeth, gorddos, camddefnydd neu gam-drin. Er mwyn hysbysu cleifion yn llawn ynghylch risgiau triniaeth, mae’n bwysig parhau i fonitro meddyginiaeth am sgil effeithiau posibl.

Yn y DU mae gennym Gynllun Cerdyn Melyn, cangen o MHRA (Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynnyrch Gofal Iechyd), sydd yn monitro pob ADR a amheuir ac sydd yn diweddaru llenyddiaeth a chanllawiau meddygol yn unol â hynny. Anogir gweithwyr iechyd proffesiynol i fod yn wyliadwrus o ran canfod ADR a amheuir ac i’w riportio ar unwaith drwy’r Cynllun Cerdyn Melyn.

Bydd y modiwl yma yn archwilio’n fanwl yr hanes y tu ôl i Gynllun Cerdyn Melyn, pwysigrwydd gwyliadwriaeth ffarmacolegol ac ymarferoldeb annog riportio mewn gofal sylfaenol ac ymysg y boblogaeth yn gyffredinol.

 

Datblygwyd y modiwl yma gan Dr Rebecca Ratcliff, meddyg teulu yng Nghwmbrân, mewn cydweithrediad â Chanolfan Cardiau Melyn Cymru.


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau