Gofal canser

Module created Ionawr 2018

Mae gofalu am bobl â chanser wedi bod yn destun trafod yn ddiweddar gyda nifer o sefydliadau yn amcanu at fireinio’r broses yr ydym yn gweithio ynddi. Mae Llywodraeth Cymru wedi sylweddoli pa mor bwysig yw rhoi sylw i’r pwnc yma, ac yn 2015 cyhoeddodd ddogfen ‘Llaw y Llaw at Iechyd - Adroddiad Blynyddol ar Ganser’ oedd yn arwydd o’u hymrwymiad i wella gwasanaethau canser i bobl Cymru. Mae hwn yn adnodd addysgol sydd yn amcanu at ddiweddaru gwybodaeth y proffesiwn ynghylch diagnosio canser ac addysgu’r cyhoedd ynghylch adnabod canser.

Ysgrifennwyd y modiwl yma gan Dr Anish Kotecha, Meddyg Teulu yng Nghwmbrân.

Epidemioleg

Amcangyfrifir bod 2.5 miliwn o bobl yn y DU yn byw gyda chanser (2012) a disgwylir i’r ffigwr yma barhau i godi i’r dyfodol rhagweladwy. Yn 2013, roedd yna dros 350,000 o achosion newydd o ganser a ddiagnoswyd. Yn anffodus, mae tua 160,000 o bobl y marw oherwydd canser bob blwyddyn yn y DU. Ond, mae mwy o bobl yn byw ac yn goroesi yn hirach gyda chanser, ac felly maent yn wynebu iechyd gwael hirdymor o ganlyniad i’r canser neu’r driniaeth.


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau