Ystyriaethau ymarferol wrth ragnodi HRT
Dewis dull gweinyddu:
Mae dewis y dull o weinyddu HRT yn dibynnu ar beth fyddai'n well gan y ferch, ond gallai HRT drwy'r croen fod yn well os yw HRT drwy'r geg yn llai addas oherwydd:
- Cyfog
- Hanes o thrombo-emboledd gwythiennol
- Lle mae cyffur sy'n ysgogi adwaith hepatig, fel carbamazepine, wedi'i ragnodi hefyd
- Problemau gydag amsugno meddyginiaeth drwy'r geg
- Hanes o gael meigryn
- Hanes o anoddefgarwch lactos difrifol (mae'r tabledi'n cynnwys lactos).
Os dewisir gweinyddu drwy'r croen, mae'r progesteron naill ai yn y patsh neu'n cael ei roi fel tabled ar wahân. Gellir defnyddio'r system mewngroth rhyddhau levonorgestrel (IUS) fel elfen progesteron yr HRT i warchod yr endometriwm. Gall hyn leihau'r gwaedu a daw'r misglwyf i ben mewn hyd at 66% o ferched. Mae hyn hefyd yn atal cenhedlu yn ystod y perimenopos. O'i defnyddio fel elfen progestogen yr HRT, trwyddedir y system mewngroth rhyddhau levonorgestrel (IUS) am bedair blynedd.
Dewis hormon:
O ran pa hormon i'w ddewis, estrogenau naturiol fel estrogen, estradiol, estron ac estriol cyfunol yw'r rhai mwyaf addas. Y progestogenau mwyaf cyffredin yw dydrogesteron, drospirenon, medrocsyprogesteron (sydd i gyd yn cael eu goddef yn well oherwydd bod ganddynt lai o effeithiau androgenaidd) a hefyd norethisteron a lefonorgestrel (y ddau ar gael yn gyfunol fel patshys HRT). Os nad yw'n briodol defnyddio progestogen, gellir defnyddio cyfuniad o dabledi estrogen a bazedoxifene acetate graddol-amsugno mewn merched ôl-fenopos a gafodd eu misglwyf olaf o leiaf 12 mis yn ôl. Gellir ystyried dos isel o estriol (hufen neu besari) neu estradiol (tabled neu gylch) drwy'r fagina. Trwyddedir tibolon ar gyfer symptomau diffyg estrogen mewn merched ôl-fenopos os oes blwyddyn wedi pasio ers y menopos. Mae'n cynnwys nodweddion estrogenaidd, progestogenaidd ac androgenaidd ac yn gwneud i'r misglwyf ddod i ben.
Dewis system:
I ferched heb groth, dylid defnyddio HRT parhaus estrogen yn unig, ond ar gyfer merched gyda chroth dylid rhagnodi HRT cyfunol.
Gellir rhoi HRT cyfunol fel system gylchol fisol (estrogen a phrogesteron yn ddyddiol yn ystod diwrnodau 10-14), system tri misol (estrogen yn ddyddiol a 14 diwrnod o brogestogen bob 13 wythnos) neu system barhaus gyfunol (estrogen a phrogestogen yn ddyddiol).
Ar gyfer merched perimenopos neu sydd o fewn 12 mis i'w misglwyf olaf, dylid dilyn system fisol neu dri misol i osgoi gwaedu afreolaidd. Unwaith y bydd merch yn ôl-fenopos, gellir newid yr HRT am baratoad parhaus cyfunol oherwydd mae'n llai tebygol o achosi gwaedu wrth ddod oddi arno (ar ôl y 3-6 mis cyntaf). Os yw'r gwaedu'n parhau am hirach, dylid dechrau ymchwilio i'r rhesymau a chyfeirio at gynaecolegydd.
Dewis dos:
Fel rheol, dylid rhagnodi'r dos isaf ar gyfer yr amser byrraf posib. I ferched iau, gallai fod angen dosys fel 2-4mg o estradiol drwy'r geg, neu 100 microgram o estradiol drwy'r croen, ond fel arfer bydd angen hanner y dosys hyn ar ferched hŷn. Pan gymerir progestogenau i warchod yr endometriwm, bydd 1mg o norethisteron drwy'r geg fel paratoad cylchol, neu 0.5mg-1mg fel paratoad parhaus, fel arfer yn ddigon. Fel arfer cymerir tibolon fel dos dyddiol o 2.5mg.