Ffibromyalgia
Module created Mai 2014
Croeso i’r adnodd dysgu yma ynglŷn â ffibromyalgia. Mae hwn yn gyflwr cyffredin sydd yn effeithio ar rhwng 2 a 5% o’r boblogaeth, sydd yn achosi poen cronig sydd yn ymledu’n eang drwy’r corff. Mae’r symptomau yn tueddu i fynd a dod a gall aflonyddu ar gwsg ac achosi blinder cronig a anhwylder tymer.
Mae’r deunyddiau dysgu yn addas ar gyfer meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd eraill sydd yn trin cleifion sydd yn dioddef â ffibromyalgia. Mae’n amcanu at ddefnyddio’r gronfa dystiolaeth bresennol er mwyn archwilio’r materion mewn perthynas â ffibromyalgia, gan alluogi clinigwyr i ddiagnosio’r cyflwr yn haws, a bydd yn cynnig yr opsiynau diweddaraf o ran triniaeth i’r defnyddiwr.
Datblygwyd yr adnodd gan Uned Cymorth Ail-ddilysu (RSU), Deoniaeth Cymru. Dr. Christopher Price (meddyg teulu a Dirprwy Gyfarwyddwr RSU).