Peryglon HRT

Ar ôl adolygu'r dystiolaeth, fe wnaeth y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal rai argymhellion:

  • Mae'r risg o thrombo-emboledd gwythiennol yn uwch os cymerir HRT drwy'r geg
  • Os cymerir HRT drwy'r croen, nid oes dim risg uwch o thrombo-emboledd gwythiennol o'i gymharu â pheidio ei gymryd
  • Mae HRT estrogen yn unig yn gysylltiedig â dim risg, neu risg is, o glefyd coronaidd y galon
  • Mae HRT cyfunol (estrogen a phrogesteron) yn gysylltiedig â risg isel iawn, neu ddim risg, o glefyd coronaidd y galon
  • Mae gan HRT estrogen drwy'r geg risg fymryn yn uwch o strôc (ond nid gydag unrhyw HRT drwy'r croen) – ond nid mewn merched a ddechreuodd ei gymryd yn iau na 60 oed
  • Mae HRT estrogen yn unig yn gysylltiedig â risg isel iawn, neu ddim risg, o ganser y fron
  • Gall HRT estrogen a phrogesteron gynyddu'r risg o ganser y fron (ond nid marwoldeb yn gyffredinol) ac mae'r risg ar ei uchaf tra bydd merch yn cymryd HRT gan leihau ar ôl rhoi'r gorau iddo
  • Nid ydym yn llwyr ddeall y risg o ganser yr ofarïau ond awgryma meta-ddadansoddiadau fod gan merched ar HRT am bum mlynedd o 50 oed ymlaen risg o tua un achos ym mhob mil sy'n ei gymryd, a hyd at un farwolaeth ychwanegol yn y grŵp hwnnw.

Mae Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain wedi cyhoeddi tablau'n dangos risgiau sylfaenol rhai o'r cyflyrau hyn yn y boblogaeth yn gyffredinol a'r risg uwch o gymryd gwahanol fathau o HRT am wahanol gyfnodau, a hefyd y risg ar ôl rhoi'r gorau i'r driniaeth.

Wrth gwrs mae hyn yn cynnig cyngor i ferched gyda chyflyrau lluosog o ran:

  • Dylid cynnig triniaethau yn lle HRT i ferched gyda chanser y fron neu gyda risg uchel o ganser y fron, fel cyffuriau gwrthiselder, elïau faginaidd, therapi ymddygiad gwybyddol, aciwbigo a therapïau ymlacio. Gellir hefyd eu cyfeirio at rywun sy'n arbenigo yn y menopos
  • Dylid rhoi HRT drwy'r croen i ferched gyda risg o thrombo-emboledd gwythiennol, neu eu cyfeirio at haemotolegydd am gyngor cyn dechrau

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau