Cymryd HRT

Dylid rhagnodi'r math mwyaf addas o HRT ar sail symptomau'r ferch (fel arfer pyliau o wres poeth / chwysu a hwyliau isel / anghyson).

  • Os oes gan ferched groth o hyd (hyd yn oed os cawsant lawdriniaeth i dynnu rhan o'r groth, dylid cynnig HRT cyfunol (progesteron ac estradiol) drwy'r geg neu'r croen iddynt. Gellid defnyddio'r system mewngroth rhyddhau levonorgestrel (IUS) ynghyd ag estrogen fel yr elfen progestogen.
  • Mewn merched heb groth, dylid defnyddio paratoad estrogen yn unig, drwy'r geg neu'r croen.
  • Mewn merched â menopos cynamserol, gellir cynnig therapi adfer steroidau rhyw gyda dewis o HRT neu'r bilsen atal cenhedlu gyfunol (oni bai eu bod wedi eu gwrtharwyddo)

Mae'n ddefnyddiol gallu cyfeirio at ffigurau meincnod ynghylch am ba hyd i gymryd HRT. Bydd angen HRT ar y rhan fwyaf o ferched am rhwng 2-5 mlynedd, am hirach i rai merched. Ar ôl cael trafodaeth â phob merch yn unigol, dylid gwneud ymdrechion rheolaidd i roi'r gorau i'r driniaeth a dylid egluro bod rhai symptomau i'w disgwyl ar ôl gorffen cymryd HRT. Dylai merched a aeth drwy fenopos cynnar gymryd HRT hyd nes eu bod yn 51 oed, a thrafod wedyn a oes angen parhau'r driniaeth gyda gweithiwr gofal iechyd.

Wrth roi'r gorau i HRT, gall merched naill ai ei orffen yn syth neu'n raddol. Ni fydd gwahaniaeth i'w symptomau yn y tymor hir, ond wrth roi'r gorau'n raddol i HRT bydd symptomau'n llai tebygol yn y tymor byr.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau