Gofalu am ferched yn ystod y menopos

Dylid nodi bod gwahanol ffyrdd y gellir trin merched sy'n cael symptomau menopos.


I ddechrau, gellid rhoi cynnig ar fesurau llai ymwthiol. Mae newidiadau ffordd o fyw i helpu gyda phyliau o wres a chwysu'n cynnwys gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, colli pwysau, gwisgo dillad ysgafnach, cadw tymheredd yr amgylchedd yn is, lleihau straen ac osgoi ysgogwyr fel caffein, ysmygu, alcohol a bwydydd sbeislyd.  Gallai osgoi ymarfer yn hwyr yn y dydd a mynd i'r gwely ar adeg reolaidd helpu gyda phroblemau cysgu. Gallai ymarfer corff, technegau ymlacio a chael digon o gwsg helpu i wella'r hwyliau.
 

Os yw HRT wedi'i wrtharwyddo, neu os nad yw'r ferch eisiau ei gymryd, gellid ystyried opsiynau eraill heb fod yn hormonaidd. Ar gyfer symptomau gwres a chwysu, gellid rhoi cynnig ar 20mg o fluoxetine y dydd, 20mg o citalopram y dydd neu 37.5mg o venlafaxine ddwywaith y dydd. Fodd bynnag, dylid nodi mai cyffuriau ail-drwydded yw'r rhain felly dylid gwneud ymdrechion i ddod oddi arnynt os na chafwyd symptomau am 1-2 flynedd. Gellir cyfeirio merched sy'n cael hwyliau anghyson at grwpiau hunangymorth, therapi ymddygiad gwybyddol, neu gynnig cyffuriau gwrthiselder iddynt. Fodd bynnag, dylid egluro nad oes gwir dystiolaeth bod cymryd cyffuriau gwrthiselder yn gwella hwyliau mewn merched menoposaidd na chawsant ddiagnosis o iselder. Ar gyfer fagina sych, pe bai'r ferch yn dymuno, gellid defnyddio eli fel Replens MDÒ am gyfnod amhenodol. Gellid cynnig dos isel o estrogen drwy'r fagina i ferched ag atroffi genitowrinal (hyd yn oed os ydynt eisoes ar HRT) ac egluro y daw'r symptomau'n ôl yn aml os daw'r driniaeth i ben.  I ferched gyda thrafferthion rhywiol, gellid gofyn am gyngor arbenigol ynghylch defnyddio ategolion testosteron.

Gallai rhai merched holi am therapïau amgen, ond dylid cynghori bod diffyg tystiolaeth ynghylch pa mor effeithiol ydynt. Mae peth tystiolaeth bod cohosh du ac isofflafonoidau'n cael effaith gadarnhaol ar symptomau gwres a chwysu, ond mae eu proffil diogelwch yn anhysbys a gall gwahanol baratoadau amrywio. Mae potensial y gallai gabapentin fod yn effeithiol i leihau pyliau o wres poeth, ond mae'r ymchwil i hyn yn parhau. Dylid osgoi beta-atalyddion oherwydd nad oes unrhyw ddata pendant yn cadarnhau eu bod yn effeithiol i drin symptomau'r menopos.

Dylid trefnu adolygiad o'r ferch ar ôl tri mis i asesu pa mor effeithiol yw'r driniaeth, ail-bwysleisio’r cyngor ffordd o fyw ac ystyried rhoi'r gorau i'r driniaeth os yw'n aneffeithiol neu os oes sgîl-effeithiau.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau