Anhwylderau bwyta

Module created Mawrth 2013 - Reviewed Ionawr 2020

Crëwyd yr adnodd yma gan Dr Chris Price, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Uned Cymorth Ail-ddilysu gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau. Mae’n cynnwys cyfeiriadau atganllawiau NICE ar anhwylderau bwyta ac mae adran ar ddeunydd cyfeirio yn cynnwys dolenni i ddeunydd i bobl broffesiynol a safleoedd gwybodaeth i gleifion.  

Beth yw anhwylderau bwyta? 

Defnyddir y term anhwylder bwyta i ddiffinio nifer o gyflyrau sydd yn effeithio ar y glasoed ac oedolion. Mae anhwylderau bwyta yn achosi morbidrwydd a marwoldeb arwyddocaol, ac maent yn arwain at broblemau meddygol niferus sydd yn gysylltiedig â chanlyniadau corfforol a seicolegol. Mae yna faterion cymdeithasol sylweddol i fynd i’r afael â nhw mewn nifer o achosion, oherwydd bod teulu yr unigolyn yn rhan allweddol o’r pecyn gofal. 

Yn fras maent wedi eu dosbarthu i:- 

  • Anorecsia nerfosa, salwch seiciatrig sydd yn disgrifio anhwylder bwyta. Cyfuniad o ddelwedd addasedig o’r corff, ac yn y rhan fwyaf o achosion gall pwysau eithriadol isel arwain at yr unigolyn yn defnyddio camau eithafol i gynnal pwysau neu i golli pwysau. Ymarfer corff gormodol, deiet sydd yn agos at lwgu neu ddefnyddio carthyddion a diwretigion. 
  • Mae bwlimia nerfosa yn gyflwr sydd yn cael ei nodweddu gan orfwyta mewn pyliau ac yna cymryd camau i wrthwneud hynny. Chwydu bwriadol (naill ai drwy ysgogi’r adwaith safnglo neu drwy gymryd meddyginiaeth i achosi chwydu e.e. ipecac), ymprydio a defnyddio carthyddion ac enemâu. 
  • Anhwylderau bwyta annodweddiadol; mae hynny yn cyfeirio at gleifion gydag anhwylderau bwyta nad ydynt yn bodloni meini prawf anorecsia neu bwlimia. Gall enghreifftiau gynnwys unigolion sydd yn defnyddio chwydu neu gamddefnyddio carthydd i reoli pwysau ond nad ydynt yn gorfwyta mewn pyliau, neu gleifion â phwysau corff isel iawn nad ydynt yn bodloni meini prawf anorecsia. Mae anhwylderau gorfwyta mewn pyliau yn perthyn i’r dosbarth yma. 

Effaith anhwylderau bwyta 

Mae anhwylderau bwyta at ei gilydd yn gyflwr cyffredin. Mae anorecsia nerfosa yn effeithio ar tua 1 o bob 250 o ferched a thua 1 o bob 2000 o ddynion. Tra bod y rhan fwyaf o’r cleifion yma yn dioddef yn ystod y glasoed ac wrth droi’n oedolion, cydnabyddir bod y cyflwr yn bodoli mewn oedolion hŷn hefyd. Mae bwlimia yn llawer mwy cyffredin, ac mae’n effeithio ar 5 gwaith gymaint o unigolion ag y mae anorecsia. Nid yw nifer y dioddefwyr anhwylderau gorfwyta mewn pyliau yn hysbys; nid yw llawer o’r cleifion yn destun sylw meddygol, ond tybir bod y niferoedd yn fwy na nifer y dioddefwyr anorecsia a bwlimia gyda’i gilydd. 

Mae anhwylder bwyta yn dechrau gan amlaf yn ystod y glasoed. Gall effaith datblygiad corfforol yr unigolyn fod yn allweddol yn ystod y cyfnod yma o dwf, a gall yr effaith ar ddatblygiad addysgol a chymdeithasol arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol, a nifer o ddioddefwyr yn methu â chyflawni eu llawn botensial academaidd. Gall amharu ar fywyd teuluol, a gall effeithio ar ofalwyr a brodyr a chwiorydd y dioddefwyr. Yn aml mae gan gleifion ag anhwylderau bwyta dymer isel ac maent yn ansicr ynghylch gofal iechyd. Anorecsia nerfosa sydd yn gyfrifol am y nifer uchaf o farwolaethau yn achos salwch seiciatrig ymysg y glasoed. 

Mae mynediad at ofal iechyd priodol yn hanfodol. Mae’r gwasanaethau ar gyfer cleifion ag anhwylderau bwyta yn amrywio ar draws y wlad, mae’n ymddangos bod ymyrraeth gynnar yn effeithio ar ddeilliannau, ond nid yw mynediad at wasanaethau arbenigol yn lleol bob tro yn bosibl. Mae natur ddarniog y gwasanaethau ynghyd ag ansicrwydd dioddefwyr efallai yn arwain at ganlyniadau negyddol. 

Mae deilliannau unigolion ag anorecsia nerfosa yn amrywio. Nid y nifer o ddioddefwyr yn ceisio mynediad at ofal meddygol ffurfiol ac mae’r prognosis yn y grŵp yma yn anhysbys. Dangosodd adolygiad o 68 astudiaeth a gyhoeddwyd cyn 1989 bod 43% yn gwella’n llwyr, bod 36% y gwella, bod 20% yn datblygu anhwylderau bwyta cronig a bod 5% yn marw o ganlyniad i anorecsia nerfosa. Roedd y marwoldeb at ei gilydd yn yr astudiaethau yn amrywio o 0-21% o ganlyniad i gyfuniad o achosion corfforol a hunanladdiad. Mae gan unigolyn â bwlimia obaith o tua 50% o wella’n llwyr, mae 20% yn parhau i ddioddef bwlimia a 30% yn dioddef rhai symptomau ond yn is na’r trothwy diagnostig. Efallai bod gan anhwylderau bwyta annodweddiadol gyfraddau gwellhad uwch na anorecsia neu bwlimia, ond mae yna ddiffyg astudiaethau hirdymor mewn perthynas â’r cyflwr yma. 

Sgrinio ar gyfer anhwylderau bwyta mewn ymarfer cyffredinol 

Yn y DU bydd gan y meddyg teulu arferol ond un neu ddau glaf sydd yn dioddef ag anorecsia nerfosa. Gall mynychder anhwylderau bwyta ymysg merched ifanc fod mor uchel â 5%. Mae cleifion ag anhwylderau bwyta yn mynd at y meddyg yn amlach na’r arfer cyn y diagnosis; mae hynny yn gyfle i’r meddyg teulu. Mae natur anorecsia yn cynyddu anhawster diagnostig i’r meddyg teulu; efallai bod y claf yn gyfrinachol, yn diystyru ac yn ansicr ynghylch ceisio gofal iechyd. 

Nid yw’n ymarferol sgrinio holl boblogaeth y practis ar gyfer anhwylderau bwyta, ond gellir targedu grwpiau risg uchel gan ddefnyddio holiadur syml wedi ei ddilysu. Enghraifft o hynny yw’r  offeryn SCOFF. 


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau