Arfarnu, Ail-ddilysu a MARS

Module created Chwefror 2019

Crëwyd y modiwl hwn fel adnodd hollgynhwysfawr ar gyfer Meddygon y mae arfarnu ac ail-ddilysu yn newydd iddynt yn dilyn eu CCT (Tystysgrif Cwblhau Hyfforddiant) neu Feddygon y mae’r prosesau arfarnu ac ail-ddilysu yng Nghymru yn newydd iddynt. Cynhyrchwyd gan yr Uned Cymorth Ailddilysu (UCA/RSU) o fewn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC/HEIW).

Dylinwyd arfarnu meddygol yng Nghymru i fod yn gefnogol a datblygiadol, dylai gydnabod datblygiad yn y gorffennol tra’n fframio cynlluniau  ar gyfer cynnydd drwy gyfrwng Cynllun Datblygu Personol (PDP). Mae arfarnu meddygol yn greiddiol i gasglu gwybodaeth mewn perthynas ag ail-ddilysu, ac mae’r crynodeb arfarnu wedi dod yn fwy arwyddocaol oherwydd bod eitemau pwysig o ddatblygiad yn cael eu trafod mewn arfarniadau a bydd hynny yn cael ei adlewyrchu yma.

Newydd gael eich CCT neu yn newydd i Gymru?

Beth sydd angen i chi ei wneud nawr

  • Sicrhewch eich bod wedi cael eich ail-ddilysu ar adeg CCT

Yn ystod ataliad ailddilysu Y Cyngor Meddygol Cyffredinol, oherwydd Covid 19, efallai na fyddai eich Deoniaeth wedi gallu eich ailddilysu ar bwynt Tystysgrif Cwblhau Hyfforddiant. Os yw hyn wedi effeithio arnoch, cysylltwch â'ch Deoniaeth hyfforddi a gofyn am lythyr yn cadarnhau y byddech wedi cael eich ailddilysu oni bai am ataliad Covid 19 Y Cyngor Meddygol Cyffredinol. Bydd angen i'ch Swyddog Cyfrifol newydd ystyried eich safle a chynghori pa gamau sydd eu hangen.

Os ydych newydd dderbyn eich CCT, yn y rhan fwyaf o achosion dylai eich Deoniaeth brosesu argymhelliad ail-ddilysu i chi. Yna byddwch yn derbyn cadarnhad gan y GMC ac yn derbyn dyddiad ail-ddilysu newydd ymhen 5 mlynedd. Os nad ydych wedi cael eich ail-ddilysu dylech gysylltu â thîm ail-ddilysu eich Deoniaeth i gael mwy o arweiniad. 

  • Sicrhewch bod gennych gysylltiad rhagnodedig drwy’r GMC

Ar  ôl i chi gael eich cynnwys ar y Rhestr Perfformwyr Meddygol (ar gyfer Meddygon Teulu yn unig), bydd angen i chi sicrhau bod gennych gysylltiad rhagnodedig drwy’r GMC. Dylai eich cysylltiad rhagnodedig  adlewyrchu eich cyflogaeth sylfaenol. 

Petaech yn newid ardal cyflogaeth, dylech sicrhau eich bod yn diweddaru eich cysylltiad rhagnodedig bob amser.  Gallwch fewngofnodi i GMC yma.


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau