Y menopos

Diffiniadau:

Y perimenopos – merched 45+ oed gyda symptomau cywasgu a chwyddo gwythiennau'r gwaed a misglwyf afreolaidd, o fewn 12 mis cynta'r newid hwn.

Y menopos – merched 45+ oed heb gael misglwyf am o leiaf 12 mis ac nad ydynt yn defnyddio atal cenhedlu hormonaidd, gyda symptomau menoposaidd.

Mae'r menopos yn gam naturiol ym mywyd merch. Fe'i nodweddir gan leihad yn nifer ei hwyau. Mae ffoliglau'r ofarïau'n methu a lefelau estrogen yn gostwng. Mae lleihad yr adborth negyddol i'r chwarren bitẅidol yn cynyddu lefelau'r hormon ysgogi ffoliglau a'r hormon lwteineiddiol. Mae'r diffyg estradiol yn arwain at ysgogi llai ar yr endometriwm sy'n achosi amenorhea neu ddiffyg misglwyf. Credir bod lefelau estrogen isel yn gyfrifol am lawer o'r symptomau menopos a brofir gan ferched.

Dylid ond defnyddio prawf hormon ysgogi ffoliglau i roi diagnosis o fenopos mewn merched 40-45 oed sy'n cael symptomau menopos gan gynnwys lle mae patrwm eu misglwyf wedi newid, neu mewn merched iau na 40 oed lle gallai'r menopos fod yn debygol.

Yn ogystal â newid yn y cylch misglwyf, mae symptomau eraill hefyd yn gyffredin yn ystod y menopos, fel:

  • symptomau cywasgu a chwyddo gwythiennau'r gwaed (pyliau o wres a chwysu)
  • cwsg aflonydd (gan wneud rhywun yn biwis a methu canolbwyntio)
  • newid hwyliau (hwyliau isel neu anghyson)
  • symptomau genitowrinol (fagina sych)
  • symptomau cyhyrysgerbydol (poen cyhyrau a chymalau)
  • problemau rhywiol (libido gwan)

Mae diffyg estrogen mewn merched menoposaidd yn cynyddu eu risg o:

  • glefyd y galon
  • osteoporosis
  • dementia a dirywiad gwybyddol
  • clefyd Parkinson

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau