Materion y Fron a Gynaecoleg
Mae Datblygiad proffesiynol parhaus(DPP) ar Gais yn cynnig yr hyblygrwydd i chi wylio ein holl ddigwyddiadau Datblygiad proffesiynol parhaus yn fyw, pryd bynnag a lle bynnag y dymunwch!
Clefyd y Fron
|
Trosolwg: Byddai Meddyg Teulu yn gweld 1-2 o ganserau'r fron ar gyfartaledd y flwyddyn. Yn y weminar hon byddwn yn trafod sut i asesu claf o'r fron mewn gofal sylfaenol a chyfeirio'r claf yn briodol at ofal eilaidd. Canlyniadau Dysgu: Yn ogystal, bydd y weminar yn trafod yr amodau cyffredinol a welir mewn gofal sylfaenol. |
Cysylltwch â heiw.cpdadmin@wales.nhs.uk i weld y gweminar. |
Siaradwr: Mr Sumit Goyal MBE. Llawfeddyg Oncoplastig Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro. Hwylusir gan: Dr Nimish Shah Arweinydd DPP Meddygon Teulu. Wedi'i recordio: Ionawr 2022 Hyd: 48 Munud
|
Problemau Cenhedlol-wrinol yn y Menopos |
Trosolwg:Wrth ddarllen y teitl, efallai y byddwch chi'n teimlo nad yw hyn yn berthnasol i chi. Fodd bynnag - cymerwch olwg ar y rhestr brysbennu foreol a chyfrif faint o alwadau sy'n ymwneud ag “UTI”, “Llid y Bledren”, “Llindag unwaith eto”. Mae llawer o'r galwyr hyn yn eu blynyddoedd ôl-atgenhedlu. Perir llawer o godymau gan ddryswch fel achos eilaidd o haint y llwybr wrinol, yn ogystal â derbyniadau ar gyfer deliriwm neu sepsis. Os yw'r rhain yn arwain at dorasgwrn y gwddf neu’r glun, mae’r gyfradd goroesi blwyddyn wedi’i Canlyniadau Dysgu: Mae’r gweminar recordiedig hon yn trafod goblygiadau diffyg estrogen ac yn archwilio sut y gall ymarfer meddyginiaeth ataliol ragweithiol arbed llawer o amser inni yn yr hirdymor. |
Cysylltwch â heiw.cpdadmin@wales.nhs.uk i weld y gweminar. |
Siaradwr: Dr Jane Clarke-Williams, Hyfforddwr Cyfadran, Arbenigwr Menopos BMS a Hyfforddwr Hwylusir gan: Dr Nimish Shah Arweinydd DPP Meddygon Teulu. Wedi'i recordio: Mawrth 2021 Hyd: 55 Munud
|
Gweminar HRT a’r Menopos |
||
Trosolwg: Mae menywod yn byw traean o'u bywydau ar gyfartaledd yn y blynyddoedd ôl-atgenhedlu. Mae diffyg estrogen yn cael effeithiau dwys ar les meddyliol a chorfforol, gan effeithio ar iechyd unigolyn yn ogystal â'r gallu i weithio ac i gynnal perthnasoedd. Mae hyn yn ei dro yn creu problemau sy'n costio arian i’r GIG yn ogystal â chymryd cryn dipyn o'n hamser ym maes gofal sylfaenol. Canlyniadau Dysgu: Yn y weminar hon, byddaf yn cyflwyno canllawiau i'n galluogi i wneud dewisiadau gwybodus ynghylch pa baratoad HRT sy'n addas ar gyfer pa glaf, crynodeb o gyngor NICE, a cheisio rhoi risg canser y fron yn ei gyd-destun.
|
Problemau Gwaedu yn y Peri a'r Post Menopos |
Trosolwg: Mae gwaedu afreolaidd yn gyflwyniad cyffredin tua adeg y menopos a thu hwnt. Canlyniadau Dysgu: Mae'r gweminar hon i'ch helpu i benderfynu pryd i dawelu meddwl, pryd i ymchwilio a thrin o fewn gofal sylfaenol, pryd i gyfeirio ymlaen fel trefn arferol, a phryd i gyrraedd am y ffurflenni aros pythefnos. |
|
Siaradwr: Dr Jane Clarke-Williams, Hyfforddwr Cyfadran, Arbenigwr Menopos BMS a Hyfforddwr Hwylusir gan: Dr Nimish Shah Arweinydd DPP Meddygon Teulu. Recorded: Ebrill 2021 Duration: 55 Munud |
Prolaps ac Anymataliaeth Wrinol |
Trosolwg: Mae cyfran helaetho ymgynghoriaethgofal sylfaenol yn ymwneud âgweld menywod sy’n ymgyflwynoâllithriad/prolapsorganau’r pelfis neu anymataliaeth wrinol. Er nad yw’n bygwth bywyd, gall effeithio’n sylweddol ar ansawdd bywyd. Mae Canllawiau NICE yn darparu fframwaith i feddygon teulu ei ddilyn cyn atgyfeirio i ofal eilaidd. Canlyniadau Dysgu: Gobeithiwn y bydd y gweminar recordiedig hwn yn eich helpu i ddeall y pwnc hwn yn well ac yn ateb rhai o'r cwestiynau a allai fod gennych. |
|
Siaradwr: Dr Sharifah Jalil, Consultant in Obstetrics and Gynaecology, BCUHB. Hwylusir gan: Dr Nimish Shah Arweinydd DPP Meddygon Teulu. Recorded: Mai 2022 Duration: 47 Munud |
Testosteron |
Trosolwg: Mae menywod a dynion yn cynhyrchu testosteron a gallant ddioddef o ddiffyg testosteron. Canlyniadau Dysgu: Mae'r weminar hon yn archwilio'r rôl y mae testosteron yn ei chwarae yn y ddau ryw, sut |
|
Siaradwr: Dr Jane Clarke-Williams, Hyfforddwr Cyfadran, Arbenigwr Menopos BMS a Hyfforddwr Hwylusir gan: Dr Nimish Shah GP CPD Lead. Wedi'i recordio: Tachwedd 2021 Hyd: 44 Munud |
Misglwyf Annisgwyl |
Trosolwg: Mae cleifion yn ymgyflwyno’n aml â phryderon ynglŷn â’u patrymau gwaedu misglwyfol. Canlyniadau Dysgu: Yn ystod y weminar hon byddwn yn edrych ar yr hyn sy’n normal, pryd y dylech boeni, a sut i reoli misglwyf annisgwyl. |
|
Siaradwr: Dr Jane Clarke-Williams, Hyfforddwr Cyfadran, Arbenigwr Menopos BMS a Hyfforddwr Hwylusir gan: Dr Nimish Shah GP CPD Lead. Wedi'i recordio: Mai 2022 Hyd: 55 Munud |
Adborth
Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen isod, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.