Sgîl-effeithiau HRT
Dylid egluro bod ennill pwysau'n gyffredin iawn o gwmpas y menopos ac nad yw HRT yn achosi dim mwy o ennill pwysau ar wahân i rywfaint o edema. Gellir disgrifio effeithiau niweidiol eraill fel rhai'n ymwneud â'r hormon dan sylw.
Estrogen:
- Cur pen
- Cyfog
- Cyffio yn y coesau
- Edema
- Stumog chwyddedig
- Bronnau chwyddedig, tyner i'w cyffwrdd
- Dyspepsia
- Angioedema
Gall yr effeithiau hyn gilio o fewn tri mis, felly os gellir eu goddef dylid annog merched i ddyfalbarhau. Gallai opsiynau eraill i helpu gyda'r symptomau gynnwys lleihau'r dos estrogen, newid y math o estrogen a newid y dull o weinyddu'r driniaeth.
Progestogen:
- Cur pen neu feigryn
- Bronnau tyner
- Edema
- Poen isel yn yr abdomen a phoen cefn
- Acne
- Iselder a hwyliau anghyson
Gall y pethau hyn gilio o fewn tri mis, felly os gellir eu goddef dylid annog merched i ddyfalbarhau. Gallai opsiynau eraill i geisio lliniaru'r effeithiau gynnwys lleihau'r dos progestogen neu newid y gyfundrefn i gymryd dos llai aml, newid y math o brogestogen neu'r dull gweinyddu. Lle bo'n briodol, gallai newid at therapi parhaus cyfunol fod yn fanteisiol.
Mae gwaedu annisgwyl o'r fagina'n haeddu sylw ar wahân ac mae'n gyffredin yn ystod y tri mis cyntaf o gymryd HRT. Mae cyfundrefn gylchol fisol fel arfer yn achosi patrwm gwaedu disgwyliedig. Dylid ymchwilio i unrhyw waedu anesboniadwy i gadarnhau hanes unrhyw sgrinio serfigol, archwiliadau sbecwlwm, uwchsain traws-fagina ac atgyfeiriadau gynaecolegol. Gallai newid y progestogen ac addasu'r dos helpu. Gallai defnyddio'r system mewngroth rhyddhau levonorgestrel (IUS) helpu gyda menorhagia idiopathig.