Iechyd a lles cyn-filwyr

Module created Medi 2012 - currently under review

Datblygwyd yr adnodd yma er mwyn helpu i weithwyr iechyd yn y gymuned ddeall yn well y materion iechyd a lles penodol sydd yn gymwys i Gyn-filwyr a’u teuluoedd. Llywodraeth Cymru sydd wedi  ariannu’r gwaith o  ddatblygu’r adnodd yma. Mae'r adnodd yn cynnwys:-

  • Modiwl addysgol 
  • Taflen wybodaeth a ddatblygwyd gan WaMH yn PC
  • Taflen Wybodaeth i Gleifion
  • Tudalen o ddolenni i ffynonellau cymorth
  • Cyflwyniad PowerPoint (ar gyfer addysg mewn practisau meddygon teulu)
  • Awgrymiadau ar gyfer ymyriadau ymarfer syml

Cyn-filwyr yn y gymuned

Mae cyn-filwr yn cael ei diffinio fel rhywun sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog am o leiaf un diwrnod. Gall y gwasanaeth hwnnw fod yn y Lluoedd Arfog Arferol neu’r Lluoedd Wrth Gefn.  Mae’r term hefyd yn gymwys i Forwyr Masnachol neu bysgotwyr os ydynt wedi gweithio gyda’r Lluoedd Arfog mewn sefyllfaoedd o wrthdaro.  Pan fônt yn dal yn y Lluoedd Arfog, mae eu hanghenion iechyd yn cael eu cydlynu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae teuluoedd personél y Lluoedd Arfog yn aros dan ofal y GIG. 

Yn y DU gyfan mae yna tua 5 miliwn o Gyn-filwyr. Mae hynny yn tua 8% o’r boblogaeth, felly byddai gan bractis meddyg teulu o faint canolig gyda 6000 o gleifion tua 480 o Gyn-filwyr wedi’u cofrestru. Gall y niferoedd fod yn uwch mewn ardaloedd o gwmpas Baracs mawr.

Efallai na fydd statws unigolyn fel Cyn-filwr yn hysbys i weithiwr gofal iechyd  neu gymdeithasol, ac efallai na fydd yr unigolyn yn ystyried bod datgelu hynny yn berthnasol. Pan fo’n briodol gofynnwch “a ydych erioed wedi gwasanaethu gyda’r Lluoedd Arfog” oherwydd nad yw rhai cyn aelodau’r lluoedd yn ystyried eu hunain fel Cyn-filwyr. Cynghorwyd meddygon teulu yng Nghymru i gynnwys cod clinigol ar gofnod electronig eu cleifion, naill ai 13q3 Gwasanaethodd yn y lluoedd arfog neu Ua0T3 Gwasanaethodd yn y lluoedd arfog. 

Pam mae hi'n bwysig nodi Cyn-filwyr?

Bydd gan y rhan fwyaf o’r Cyn-filwyr anghenion iechyd  a chymdeithasol sydd yn gyffredin â’r boblogaeth yn gyffredinol. Ond mae yna nifer fawr o Gyn-filwyr sydd ag anghenion corfforol neu feddyliol sydd yn uniongyrchol gysylltiedig â’u gwasanaeth. Lansiodd Llywodraeth y DU Gyfamod y Lluoedd Arfog oedd yn cynnwys yr egwyddor na ddylai cymuned y Lluoedd Arfog wynebu anfantais oherwydd eu profiadau milwrol.

Beth yw Cyfamod y Lluoedd Arfog?

Mae’r Cyfamod yn nodi’r berthynas rhwng y Genedl, y Wladwriaeth a’r Lluoedd Arfog. Mae'n cydnabod bod gan y genedl gyfan ddyletswydd moesol tuag at aelodau’r Lluoedd Arfog a’u teuluoedd, ac mae’n sefydlu sut y disgwylir iddynt gael eu trin. Mae’n bodoli er mwyn mynd i’r afael â’r anfanteision y mae cymuned y Lluoedd Arfog yn eu hwynebu o’i gymharu â dinasyddion eraill, ac er mwyn cydnabod yr aberth a wnaed. Mae ystyriaeth arbennig yn briodol mewn rhai achosion, yn enwedig yn achos y rhai sydd wedi rhoi i’r eithaf ac sydd wedi’u hanafu neu wedi cael profedigaeth.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cydnabod yr angen ac, ymysg mentrau eraill, wedi cefnogi lansio GIG Cymru i Gyn-filwyr.

“Mae dynion a merched ein lluoedd arfog yn gwneud gwaith rhagorol ac mae arnom ddyled a diolchgarwch a dyletswydd gofal i gyn-filwyr, yn arbennig pan fo cyn-filwyr yn datblygu problemau iechyd o ganlyniad i’w gwasanaeth milwrol.”  Nododd Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (2013) ei bod yn ystyried ei chyfrifoldebau am iechyd cyn-filwyr o ddifri a’i bod yn rhwymedig i sicrhau bod ystod o wasanaethau o ansawdd uchel ar gael er mwyn darparu’r driniaeth maent yn ei haeddu.   

Mae GIG Cymru i Gyn-filwyr yn rhan allweddol o waith Llywodraeth Cymru yn y maes yma.  Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £485,000 y flwyddyn yn y gwasanaeth GIG newydd yma, sydd yn cael ei ddatblygu a’i roi ar waith ar draws Cymru fel Model Canolfan a Lloerennau, gyda therapydd arbenigol ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol (LHB).  Bydd hynny yn darparu triniaeth arbenigol yn lleol i gyn-filwyr.  Mae mwy o wybodaeth am y gwasanaeth ar gael yma.

“O ganlyniad i hynny bydd yna glinig cleifion allanol arbenigol ym mhob LHB fydd yn darparu arbenigedd a gofal i gyn-filwyr, fydd yn eu galluogi i gael mynediad at wasanaethau fydd mor agos â phosibl i’w cartrefi”.   

Datganiad drwy garedigrwydd Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru.

Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cylchlythyr iechyd ar Driniaeth Blaenoriaethol  sydd yn ymestyn y flaenoriaeth a roddwyd ers amser i bensiynwyr rhyfel, i bersonél y lluoedd arfog.

Y ddau brif bwynt yn y cylchlythyr yw:

  • Wrth gyfeirio claf y maent yn gwybod sydd yn gyn-filwr am ofal eilaidd (mwy arbenigol), gofynnwyd nawr i feddygon teulu ystyried a allai’r cyflwr, yn eu barn clinigol eu hunain, fod yn gysylltiedig â gwasanaeth milwrol y claf.  Mae triniaeth flaenoriaethol yn gymwys i gyflyrau sydd yn gysylltiedig â gwasanaeth y cyn-filwr YN UNIG. Pan fo hynny’n wir, a gyda chytundeb y claf, dylai hynny gael ei egluro yn yr atgyfeiriad.  
  • Pan fo clinigwyr gofal eilaidd yn cytuno bod cyflwr cyn-filwr yn debygol o fod yn gysylltiedig â gwasanaeth, gofynnwyd iddynt flaenoriaethu cyn-filwyr cyn cleifion eraill sydd â’r un lefel o angen. Ni fydd cyn-filwyr yn cael blaenoriaeth ar gleifion eraill sydd ag anghenion clinigol mwy difrifol. Yr ymarferydd clinigol fydd i benderfynu, o ystyried y tebygolrwydd, a yw cyflwr cyn-filwr yn gysylltiedig â’i wasanaeth.

Wrth gyfeirio Cyn-filwr am fwy o ofal, mewn perthynas â chyflwr y gellir ystyried ei fod yn gysylltiedig â’i wasanaeth, gellir defnyddio’r llinell ganlynol i wneud cais am driniaeth flaenoriaethol:-

Mae’r claf yma yn gyn-filwr. Rwyf yn credu y gall ei gyflwr/ei chyflwr fod yn gysylltiedig â gwasanaeth milwrol. Dylid ystyried yr atgyfeiriad yma ar gyfer triniaeth flaenoriaethol o dan Gylchlythyr Iechyd Cymru WHC (2008) 051

Mae cyfamod y Lluoedd Arfog yn ymestyn y tu hwnt i ofal iechyd, ac ym Mehefin 2011 lansiodd Bro Morgannwg gyfamod cymunedol cyntaf Cymru.

Felly gall nodi bod yr unigolyn yn Gyn-filwr helpu o ran blaenoriaethu mynediad at wasanaethau yn briodol a sicrhau bod materion meddyliol a chymdeithasol posibl yn cael eu harchwilio. Gellir cyfeirio at ffynonellau cymorth a gellir gweld iechyd a lles y Cyn-filwr yn ei gyd-destun.


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau