Manteision HRT
Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn awgrymu'r canlynol:
- Mae risg is o doriadau esgyrn brau yn ystod triniaeth, sy'n peidio â bod ar ôl gorffen y driniaeth. Os cymerir HRT am hirach, gallai'r fantais hon barhau am hirach.
- Mae peth tystiolaeth bod HRT yn cael effaith ar fàs a chryfder y cyhyrau, er y credir y gallai'r effaith fod yn wellhaol
- I ferched a gafodd fenopos cynamserol, mae cynnig triniaeth hormonau (gyda HRT neu'r bilsen atal cenhedlu gyfunol) a pharhau'r driniaeth tan oed y menopos naturiol, yn lleihau'r risg o glefyd cronig fel clefyd y galon ac osteoporosis. Yn benodol, mae HRT yn cael effaith lesol ar bwysedd gwaed o'i gymharu â'r bilsen atal cenhedlu gyfunol, ond mae'r ddwy driniaeth yn gwarchod yr esgyrn