Opsiynau rheoli

Bydd y dewis o opsiynau a gynigir i’r claf mewn perthynas â thrin BCC yn dibynnu ar y canlynol: lleoliad anatomegolmaintymddangosiad clinigol, diagnosis histolegol a’r graddau y mae’r triniaethau ar gaelWrth gwnsela cleifion ynghylch yr opsiynau rheoli, dylid cynnwys y tebygolrwydd o’i ddileu’n llwyr a’r canlyniad cosmetig. 

Mae’r dulliau o reoli BCC isel eu risg yn y gymuned yn cynnwys: 

  • eu tynnu allan yn gyfan drwy lawdriniaeth  
  • ciwretio a serio/electrodysychu  
  • cryotherapi/cryolawdriniaeth  
  • triniaeth argroenol (er enghraifft, imiquimod)  

Nid yw cryotherapitherapi ffotodynamig, imiquimod a radiotherapi yn cynhyrchu data histolegofelly mae’n hanfodol gwneud profion biopsi/histoleg ymlaen llaw. 

Mae ymchwil wedi dangos pa mor bwysig yw cwnsela cleifion ynghylch y canlyniad cosmetig, gan fod lefelau uchel o fodlonrwydd am ganlyniadau wedi’u nodi gan gleifion a oedd heb ddisgwyl maint y graithFelly, yn yr un modd â dewisiadau eraill o ran triniaeth, ni ddylai oed, rhyw neu anabledd y claf fod yn ddylanwad ar gyngor y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol na’i ddewis o ddulliau rheoli, oni bai fod perthynas glinigol uniongyrchol rhwng y rhain a llwyddiant mathau penodol o driniaeth(13) 

Ledled Cymru a’r DU, mae dau fodel gofal posibl ar gael ar gyfer rheoli BCC

Model 1  

Atgyfeirio achosion o BCC lle mae’r risg yn fach ar gyfer gofal Grŵp 3 mewn gwasanaethau ychwanegol dan gyfarwyddyd/ gwasanaethau ychwanegol lleol gan ymarferwyr cyffredinol â diddordeb arbennig mewn dermatoleg a llawfeddygaeth y croen. 

Model 2 

Atgyfeirio achosion i ymddiriedolaethau iechyd acíwt lleol neu fyrddau iechyd lleol sy’n rhedeg clinigau canser y croen yn y gymuned. (14) 

Mae’r dulliau o drin BCC yn cynnwys tynnu allan y briw cyfan drwy lawdriniaethei dynnu allan drwy lawdriniaeth ficrograffig Moh, llawdriniaeth ar arwyneb y croentherapi ffotodynamig, cryotherapi, imiquiod, 5-fflworwracil ac, mewn rhai achosion, radiotherapiMae nifer y gwahanol opsiynau ar gyfer triniaeth yn dangos bod angen cwnsela manwl ynghylch y dewis y driniaeth. 

Biopsi i dynnu allan y briw cyfan 
  • Yn fwyaf priodol ar gyfer BCCs nodylaidd, treiddiol a morffeig 
  • Dylid cynnwys ymyl 3 i 5 mm o groen normal o gwmpas y tiwmor 
  • Mae llawdriniaeth ychwanegol yn cael ei hargymell ar gyfer briwiau sydd heb eu tynnu allan yn gyfan, yn unol â’r adroddiad patholeg. 
Tynnu allan drwy lawdriniaeth ficrograffig Moh 

Llawdriniaeth gymhleth sy’n golygu edrych yn fanwl ar feinwe sydd wedi’i farcio’n ofalus a’i dynnu allan o dan y meicrosgop, haen wrth haen, i sicrhau bod y cyfan wedi’i dynnu allan. Rhai o’r manteision yw cyfraddau gwella uchel a’r gallu i drin mannau anodd fel y llygaid, y gwefusau a’r trwynMae’n addas ar gyfer trin is-fathau gwrthdroadol, morffeig, treiddiol a rhai sydd heb eu diffinio’n glir. 

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau