Carsinoma Celloedd Gwaelodol (BCC)
Mae BCC yn fathau o NMSC sy’n tyfu’n araf. Ar gyfartaledd, maent yn tyfu rhwng 2 a 3 mm y flwyddyn. Anaml y byddant yn tyfu ar chwâl. Fodd bynnag, am eu bod yn tyfu mewn ffordd mor ddinistriol, gallant achosi afiachedd sylweddol mewn meinweoedd lleol. Gall hyn fod yn waeth yn ôl y lleoliad anatomegol. Y pen a’r gwddf yw rhai o’r prif fannau y dylid bod yn fwyaf pryderus yn eu cylch.
Bydd BCC yn rhai lluosog yn aml, felly mae’n bwysig archwilio’r croen yn drwyadl i chwilio am rai eraill. Gellir eu cael ar bob rhan o’r corff. Cafwyd cynnydd yn nifer yr achosion yn y bongorff mewn cleifion iau. Anaml y byddant yn digwydd ar y dwylo a’r elinau. Maent yn cael eu cysylltu’n fwy â thwf o gwmpas mannau ar y corff lle mae blew yn tyfu.
Mae nodweddion sy’n helpu i wahaniaethu rhwng BCC a caleden actinig (AK) a SCC: byddant yn aml yn cynhyrchu crawen waedlyd sy’n wahanol i’r cen a gynhyrchir gan diwmorau caledennol fel AK a SCC.
Mae’n bwysig gwahaniaethu’n glinigol rhwng BCC arwynebol a mathau eraill o BCC am fod modd eu rheoli’n feddygol mewn llawer achos fel na fydd angen eu tynnu allan yn gyfan. (3)
Mae pum math o BCC: nodylaidd, arwynebol, morffeig, pigmentog a gwaelodol-cennog.
BCC Nodylaidd: Fe’u ceir ar y wyneb gan mwyaf ac maent ar ffurf briwiau systig ag arwyneb perlog gyda telangiectasis. Gall wlser fod yn bresennol sydd â’r gallu i dreiddio’n ddwfn.
BCC Arwynebol: Ceir nifer lluosog ohonynt yn aml, ar y bongorff a’r ysgwyddau gan mwyaf. Maent wedi’u diffinio’n dda, yn gennog, gyda phlaciau cochlyd sydd yn aml yn fwy na 20mm. Gellir cymysgu rhyngddynt a chlefyd Bowen neu ddermatosis llidiol. Maent yn tyfu’n araf dros fisoedd a blynyddoedd. Byddant yn ymateb yn dda iawn i driniaeth feddygol yn hytrach na thriniaeth lawfeddygol.
BCC Morffeig: Maent hefyd yn cael eu galw’n BCC sglerotig neu dreiddiol ymysg termau eraill. Fe’u ceir ar ganol y wyneb gan mwyaf. Mae’r rhan fwyaf ohonynt o liw’r croen, gydag arwyneb cwyraidd, ac weithiau’n debyg i graith, heb nodweddion croen normal (e.e. mandyllau neu ffoliglau blew). Gallant fod yn dreiddiol ac ymledu o gwmpas nerfau.
BCC Pigmentog: Mae’r rhain o liw brown, glas neu lwydaidd. Gallant ymddangos yn debyg i felanoma malaen. Gall eu ffurf histolegol fod yn nodylaidd neu’n arwynebol.
BCC Gwaelodol-cennog: Gall y rhain fod yn fwy ffyrnig na mathau eraill o BCC. Maent yn gymysgedd o BCC a SCC.
Anaml y bydd BCC yn angheuol, ond fe all dyfu ar chwâl mewn nifer bach iawn o achosion. Gellir trin y rhan fwyaf o’r achosion o BCC mewn lleoliad cleifion allanol neu mewn lleoliad cymunedol/gofal sylfaenol. Fodd bynnag, os methir â gwneud diagnosis cynnar a/neu roi triniaeth ddigonol, gall tiwmorau ddatblygu sy’n dinistrio strwythurau anatomegol pwysig (fel y trwyn, llygad, clust a gwefus). Wynebir her fawr wrth drin tiwmorau o’r fath fel ei bod yn anodd sicrhau canlyniad cosmetig da ac fel ei bod yn bosibl na fydd modd cyflawni llawdriniaeth ar y tiwmor hyd yn oed .
Ymysg y ffactorau sy’n ei gwneud yn fwy tebygol i’r claf gael BCC y mae’r canlynol: bod mewn golau uwchfioled, yn cynnwys golau haul naturiol a golau artiffisial. Gall ddigwydd yn yr holl fathau o groen ac fe’i ceir yn amlach mewn pobl â math croen 1 a 2, ac mewn cenedlaethau hŷn. Mae’n effeithio ar ddynion ddwywaith yn amlach nag ar fenywod: credir bod hyn yn ganlyniad eilaidd i fod yn agored i olau’r haul yn amlach mewn perthynas â galwedigaethau a gweithgareddau hamdden. Cafwyd adroddiadau am achosion lle mae BCC wedi ffurfio ar leoliad anafiadau a llosgiadau trawmatig blaenorol. Mae ysmygu’n gallu ei wneud yn fwy tebygol. Fel y nodwyd, mae gwrthimiwnedd yn cynyddu’r tebygolrwydd o ddatblygu BCC.
Yn achos cleifion sydd â dau BCC neu ragor ac sydd o dan 30 oed, dylid ystyried ymchwilio ymhellach am syndrom Mannau Geni Celloedd Gwaelodol sydd hefyd yn cael ei alw’n syndrom Gorlin. (13)