Canser y Croen a Gofal Sylfaenol
Sut rydym yn darganfod canser y croen
Ar hyn o bryd nid oes rhaglen gyffredinol ar gyfer sgrinio am ganser y croen yn y DU. Meddygon teulu a thimau gofal iechyd sylfaenol sy’n atgyfeirio’r rhan fwyaf o achosion at ddermatolegwyr. Yr unig gyfleoedd a geir ar hyn o bryd i atgyfeirio achosion o ganser y croen yw pan fydd meddygon teulu yn digwydd sylwi ar symptomau yn ystod apwyntiadau gofal sylfaenol a phan wneir canfyddiadau wrth archwilio systemau eraill y corff. Rydym hefyd yn gwybod y bydd amser yn brin yn ystod apwyntiadau os bydd cleifion yn gofyn am sylw i nifer o broblemau ac yn ei gadael tan y diwedd wedyn i ofyn i’r meddyg teulu “fwrw golwg sydyn ar y man geni yma”.
Sut y gall meddygon teulu wella eu dulliau i adnabod canser y croen yn gynharach:
Nid oes disgwyliad uniongyrchol i bob meddyg teulu allu defnyddio dermatosgop. Prif bwrpas dermosgopi mewn Gofal Sylfaenol yw canfod pa friwiau sy’n anfalaen fel nad oes angen gwneud atgyfeiriad. Mae Cymdeithas Dermatoleg Gofal Sylfaenol (PCDS) wedi gwneud datganiad clir ynghylch pwy a all gyflawni dermosgopi gan gyfyngu hynny i’r rheini sydd wedi cael ‘hyfforddiant priodol’ mewn technegau dermosgopi. Y diffiniad o ‘briodol’ yw bod y meddyg teulu wedi dilyn un o gyrsiau dermosgopi achrededig Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol sy’n cael eu cynnal ledled Cymru. Dermosgopi i ddechreuwyr yw’r cwrs sylfaenol: mae’n canolbwyntio ar wahaniaethu rhwng briwiau anfalaen cyffredin fel seborrheic keratoses, BCC a melanoma. Yng nghyrsiau’r coleg brenhinol mewn dermosgopi i ymarferwyr canolraddol ac uwch y nod yw lleihau nifer yr achosion o friwiau anfalaen sy’n cael eu hatgyfeirio’n ddiangen i ymarferwyr gofal eilaidd drwy’r llwybrau atgyfeirio ar gyfer achosion tybiedig o ganser sy’n rhai brys. Mae PCDS yn dweud y dylai o leiaf un meddyg teulu ym mhob practis fod wedi’i hyfforddi i ddefnyddio dermosgopi os yw’n bosibl.
Pa fathau o friwiau y gellir eu hadnabod â dermatosgop?
Gellir nodi pob briw croen anfalaen fel seborrhoeic keratoses, angioma, dermatofibroma a blue naevi gyda dermatosgop. Mae hyn yn gallu helpu i leihau nifer yr atgyfeiriadau a llawdriniaeth ddiangen ar y croen.
Pan fydd briwiau cyn-ganseraidd fel Caleden Actinig (AK), clefyd Bowen a BCC yn cael eu hadnabod drwy ddermatosgop, bydd yn well eu trin mewn gofal sylfaenol gyda gwell sicrwydd diagnostig a’u hatgyfeirio ymlaen os bydd angen.
Mae’n bwysig bod briwiau melanosytig o bob math sy’n codi amheuaeth o felanoma o ran eu hanes a’u golwg i’r llygad noeth, yn cael eu hatgyfeirio ar frys i ymarferwyr gofal eilaidd fel achos tybiedig o ganser sy’n un brys, sut bynnag y byddant yn ymddangos drwy ddermosgop. Gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng mannau naevi melanosytig a mannau naevi annodweddiadol anfalaen a melanoma oherwydd y gwahaniaethau bach rhwng y nodweddion dermosgopig. (7)