Melanoma

Mae Cymdeithas Dermatolegwyr Prydain (BAD) wedi cyhoeddi dogfen fuddiol ‘The prevention, diagnosis, referral and management of melanoma of the skin’. (8) 

Mae’n grynodeb o’r canllawiau sy’n berthnasol ar gyfer rheoli gofal sylfaenol. Mae pedwar prif fath o felanomamelanoma ymledol arwynebolmelanoma nodylaiddmelanoma lentigo maligna a melanoma lentiginaidd acral. Gall fod yn anodd gwneud diagnosis o felanomata tanewinol ond nid ydynt yn fath gwahanol o felanoma. 

Melanoma ymledol arwynebol:  

Y math mwyaf cyffredin o felanoma. Mae’n tyfu’n arafach na mathau eraill o felanoma: bydd yn ymledu’n llorweddol dros y misoedd cyntaf ac wedyn yn ymledu’n ddyfnachBydd cyfle i wneud diagnosis yn y cyfnod cynnar ac mae hyn yn gysylltiedig â thebygolrwydd mwy o wella. Mae’r rhan fwyaf o’r melanomata’n 7 mm neu fwy ar eu traws pan wneir diagnosisGan amlaf, bydd eu lliwiau’n afreolaidd ac yn cynnwys tri neu ragor o wahanol liwiau fel brown, cochdu a du-lasNi fyddant yn gymesur yn aml a bydd eu hymylon yn geograffyddol. 

Melanoma nodylaidd

Mae’r melanomata hyn yn fwy cyffredin mewn unigolion hŷnMaent yn tyfu’n fwy cyflym ac i gyfeiriad fertigol. O’u cymharu â melanomata ymledol arwynebol, mae eu lliw, er ei fod yn amrywiol, yn aml yn fwy unffurf ym mhob rhan o’r briw. Gallant fod yn ddu neu’n goch eu lliw, gydag wlser o bosibl. 

Melanoma lentigo maligna  

Fel arfer, mae’r rhain yn fwy cyffredin mewn pobl sydd dros 60 mlwydd oedByddant yn tyfu’n araf ar y dechrau cyn ymledu’n gyflymGellir galw’r briw rhagflaenol sy’n tyfu’n araf yn lentigo maligna neu’n frycheuyn Hutchinson. Gall aros yn sefydlog am flynyddoedd lawer cyn datblygu’r gallu i dyfu ar chwâlMae’r briw rhagflaenol yn ymddangos yn debyg i frycheuyn sydd fel arfer yn fwy o lawer a’i ymylon yn fwy clir na brycheuyn ‘cyffredin’Er eu bod yn gallu datblygu nodweddion tebyg i felanomata ymledol arwynebol neu felanomata nodylaidd, y datblygiad o’r briw rhagflaenol yw’r gwahaniaeth sy’n eu gwneud yn felanomata lentigo maligna. 

Melanoma lentiginaidd acral

Gall y rhain ddigwydd mewn unrhyw oedran, mewn unrhyw ethnigrwydd a’r gred yw nad ydynt yn gysylltiedig â bod yn yr haulY rhain yw’r math prinnaf o felanoma a gellir eu cael ar sodlau’r traed, ar gledrau’r llaw ac o dan ewinedd. Byddant yn aml yn cael eu gweld yn hwyr am nad yw’r claf yn ymwybodol ohonyntWeithiau, mewn cleifion diabetig, gwneir diagnosis anghywir drwy eu galw’n wlserGwyliwch rhag caledennau gwaedlyd lle maent yn cael eu cuddio gan haen adweithiol o geratin. Ar y dechrau, byddant ar ffurf briwiau gwastad pigmentog sy’n debyg i fannau geni. Byddant yn dechrau cynyddu o ran maint ac yn y pen draw byddant yn datblygu mannau pigmentog afreolaidd ac weithiau’n troi’n wlser 

Melanomata tanewinol

Mae’r rhain yn tyfu o dan yr ewin ac maent yn fwyaf cyffredin o dan ewin y bawd ar y llaw neu’r troedGall fod yn hawdd iawn gwneud diagnosis anghywirgan eu bod yn ymddangos yn debyg i haint ffyngaidd neu ronyndyfiant crawnllydByddant yn cychwyn ar blyg agosaf yr ewin ac yn codi o fatrics yr ewinYn aml, byddant ar ffurf band pigmentog yn yr ewin, sy’n ymledu’n araf ac weithiau’n cynhyrchu trwch o dan yr ewin sy’n codi plât yr ewin gan achosi gwaedu. 

Rheoli 

Mae canllawiau Cymdeithas Dermatolegwyr Prydain a’r Grŵp Astudio Melanomata yn disgrifio’r dull o reoli melanoma. Mae melanoma yn gallu dynwared briwiau anfalaen, o ran eu ffurf glinigol a histolegol, ac, i’r gwrthwyneb, gall briwiau anfalaen ddynwared melanomata. Sicrheir diagnosis cywir drwy gael hanes cywir, drwy archwilio briwiau, eu cymharu â ffotograff blaenorol os yw un ar gael ac wedyn eu torri allan yn gyfan ac yn ddi-oedRhaid osgoi torri allan endoriadol neu anghyflawn, gan fod gwall samplu yn gallu arwain at ddiagnosis anghywir. (9) 

Rhaid i bob achos tybiedig o felanoma welwyd mewn gofal sylfaenol gael ei atgyfeirio at ymarferwyr gofal eilaidd fel achos tybiedig o ganser sy’n un brys. 

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau