Crynodeb

Ymarferwyr gofal sylfaenol sy’n cymryd y rhan fwyaf o’r atgyfeiriadau cyntaf am ganser y croenMae Llywodraeth Cymru wedi nodi bod canser y croen yn rhan allweddol o’i bil iechyd i wella’r ddarpariaeth ar gyfer canfod, trin a goroesi canserYr ymgyrch ‘Herio’r Haul’ ar gyfer y DU sy’n cael ei chynnal drwy Cancer Research UK yw’r brif ffynhonnell ar hyn o bryd ar gyfer cyngor ar arferion diogel yn yr haul i’r holl gleifion sy’n wynebu risg ac sydd wedi cael diagnosis o ganser y croenMae hyn yn mynd law yn llaw â chyngor ar lefelau iach o fitamin D.  

Mae nifer yr achosion o ganser y croen o bob math yn cynyddu ledled Cymru a’r DUMae data yn dangos bod y niferoedd yn y cenedlaethau iau sy’n cael eu gweld â chanserau’r croen, yn cynnwys BCC a melanomata, yn fwy nag mewn cenedlaethau blaenorolDylai meddygon teulu fod yn effro i’r posibilrwydd o weld briwiau ar y croen mewn cleifion iauyn 30-39 mlwydd oed ar gyfer BCCac o 20mlwydd oed ar gyfer melanoma. Hefyd, yn ogystal ag atgyfeirio cleifion â briwiau croen penodol at ddermatolegwyr, dylid ystyried atgyfeirio’r rheini mewn grwpiau uchel eu risg ar gyfer ffotograffiaeth linell sylfaen a monitro parhaus. 

Y prif gyrff arweiniol ar ganser y croen yn y DU yw NICE, PCDS a Chymdeithas Dermatolegwyr Prydain.Mae NICE wedi pennu pa friwiau croen fel Melanoma, SCC a BCC mewn lleoliadau anatomegol sy’n peri pryder a ddylai gael eu hatgyfeirio fel USCYn ogystal â hyn, dylai ceratoacanthomata gael eu hystyried yn SCC nes profi fel arall a dylid eu hatgyfeirio fel USC. Ymysg yr achosion tybiedig o ganser nad ydynt yn rhai brys y mae rhai sy’n ymwneud â BCCclefyd Bowen, AKac unigolion sydd drwy ddiffiniad yn wynebu risg fawr o ganser y croen, yn cynnwys melanoma â >100 o fannau genigwallt cochmannau geni annodweddiadol>2 aelod gradd gyntaf o’r teulu a gafodd ddiagnosis o felanoma. 

Mae nifer o wahanol opsiynau ar gael i drin canser y croenOherwydd hyn, mae’n hollbwysig dod i gyd-ddealltwriaeth o’r moddau triniaeth hyn gyda chleifion, er mwyn iddynt wneud y penderfyniad ar driniaeth syn fwyaf addas iddyn nhw. 

Mae darganfod yn gynnar, diagnosis a llwybrau atgyfeirio cywir yn gwella’r mynediad at driniaeth. Mae hyn yn hanfodol i wella canlyniadau triniaeth i gleifion ac i leihau’r baich cynyddol o gostau ar y GIG.   

Y cyngor gan PCDS yw y dylai o leiaf un meddyg teulu ym mhob practis gael ei hyfforddi i ddefnyddiodermatosgopiY cwrs achrededig a ddarperir gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol sy’n cael ei argymell ar gyfer hynDylai hyn ganiatáu atgyfeirio mewnol rhwng meddygon teulu er mwyn helpu i leihau’r baich cyffredinol o atgyfeiriadauMae clinigau gwell ar gyfer trin canser y croen mewn gofal sylfaenol wedi’u sefydlu ledled Cymru er mwyn gwella mynediad lleol drwy glinigau canser y croenmewn gwasanaethau allgymorth cymunedol a thrwy’r model gwasanaethau ychwanegol dan gyfarwyddyd/gwasanaethau ychwanegol lleol. 

 

Adborth

Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen hon, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau