Atgyfeirio achosion tybiedig o ganser nad ydynt yn rhai brys lle mae briwiau cyn-ganseraidd a chanseraidd ar y croen
Mae rhestr isod o friwiau cyn-ganseraidd a chanseraidd ar y croen a ddylai gael eu hatgyfeirio fel achosion lle mae llai o frys ac nid fel USC o dan ganllawiau NICE:
- BCC
- Caleden Actinig (AK)
- Clefyd Bowen
- Unigolion sy’n wynebu risg fawr; Unigolion sy’n wynebu risg fawr: Mae pobl sydd â’r nodweddion canlynol yn ddeg gwaith yn fwy tebygol o gael melanoma: >100 o fannau geni, gwallt coch, mannau geni annodweddiadol, >2 aelod gradd gyntaf o’r teulu a gafodd ddiagnosis o felanoma. Dylent gael eu hatgyfeirio fel arfer i gael asesiad dermatoleg, amcangyfrif o risg ac addysg ar amddiffyn rhag golau haul. Yn aml, defnyddir ffotograffau llinell sylfaen i’w monitro dros y blynyddoedd. Mae technegau hunanarchwilio yn ddefnyddiol hefyd. (9)
Profforma atgyfeirio Canser y Croen
Mae matrics atgyfeirio wedi’i lunio sydd ar gael i’w lawrlwytho i helpu practisau i atgyfeirio pryderon am ganser y croen yn effeithlon i’w gwasanaethau lleol. (Atodiad 1)