Perfformio archwiliad
Gall canserau y geg gyflwyno eu hunain mewn amrywiol ffyrdd, ac mae adnabod ar annormal yn sgil hanfodol i weithwyr iechyd proffesiynol y byddir yn ymgynghori â nhw efallai (fferyllwyr, nyrsys, meddygon teulu a deintyddion). Lansiwyd ymgyrch ymwybyddiaeth amlbroffesiynol yng Nghymru, ac mae nifer o adnoddau wedi cael eu datblygu ar y safle yma ac mewn mannau eraill - darperir dolenni yn yr adran adnoddau.
Archwilio’r Pen a’r Gwddf: Canllawiau i feddygon teulu
- YouTube
a chanllawiau i ddeintyddion:
Dylid perfformio archwiliad strwythuredig
I ddechrau, yn syml archwiliwch y claf - gan asesu am unrhyw anghymesuredd yn yr wyneb neu’r gwddf ac o dan y genau.
Yna wrth sefyll y tu ôl i’r claf, teimlwch y gwddf am lymffadenopathi a sicrhau eich bod yn archwilio o dan y genau.
Gan ddefnyddio golau da, archwiliwch y geg. Bydda angen i chi ddefnyddio offeryn (gostyngydd tafod) er mwyn sicrhau y gellir gweld pob rhan.
Yn olaf, archwiliwch llawr y geg.
Gafaelwch yn y tafod yn ofalus (defnyddiwch ddarn o rwyllen wen i’ch helpu i afael ynddo) fel y gallwch edrych ar ymylon y tafod ac oddi tano.
Rhowch eich bys yng ngheg y claf a theimlo’r meinwe rhwng y bys hwnnw a’r llaw arall o dan y genau.
Gall canserau y geg ymddangos yn unrhyw le yn y geg, ond mae ochrau’r tafod a llawr y geg yn safleoedd “risg uchel”.