Canau

Mae camau’r clefyd yn achos canser y geg pan gaiff ei ddiagnosio yn effeithio’n arwyddocaol ar yr opsiynau o ran triniaeth, morbidrwydd a marwoldeb. 

Camau Canser y geg

Poster canser y geg yn dangos maint y canser

Yng Nghymru rhwng 2011 a 2013 roedd yna 811 achos o ganser y geg wedi eu canfod, ac nid oedd y camau yn hysbys. O’r 600 achos arall roedd 59% (354) ar gam 4 (y cam mwyaf datblygedig).

Mae diagnosio canser y geg yn hwyr wedi cael ei briodoli i nifer o ffactorau (Cyfeiriad Ffactorau Cysylltiedig â Diagnosio Canser y Geg yn Hwyr ) :

Y claf a’r cyhoedd

  • Ddim yn adnabod y clefyd oherwydd diffyg ymwybyddiaeth o arwyddion a symptomau’r clefyd
  • Methu â mynychu’n brydlon ar gyfer cymorth meddygol, gan ddewis ymagwedd “aros a gweld” ynglŷn â’r symptomau
  • Ddim yn ymgysylltu â systemau gofal iechyd oherwydd y gost neu ganfyddiadau bod triniaethau canser y geg yn aneffeithiol

Gweithwyr Iechyd Proffesiynol

  • Ddim yn adnabod canser y geg (yn arbennig camau cynnar y clefyd)
  • Atgyfeirio’n hwyr ar gyfer gofal
  • Oediadau o ran llwybrau gofal i gleifion ar gyfer diagnosis a thriniaeth

Amcangyfrifir y gall oediadau diagnostig arwain at waethygu’r camau diagnosio mewn hyd at 30% o gleifion.

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau