Materion penodol all ymddangos
Ceg sych
Un o’r prif broblemau i gleifion canser y geg yw ceg sych, sydd yn ganlyniad i radiotherapi a/neu driniaeth gyda chyffuriau. Gall hynny achosi i’r geg deimlo’n anghyfforddus, a gall effeithio ar fwyta, yfed a llyncu. Mae diffyg poer hefyd yn golygu bod gan gleifion lai o amddiffyniad rhag heintiau meinwe meddal yn y geg a phydredd deintyddol.
Bydd y gofal a roddir i’r claf ar ôl triniaeth canser y geg yn dibynnu ar ei ymddangosiad. Mae cyngor syml all helpu cleifion yn cynnwys:
Brwsio’r dannedd yn ysgafn ar ôl pob pryd bwyd gyda brwsh meddal
Mwcosgitis
Mae hwn yn un o gymhlethdodau therapi ymbelydredd a gall ymddangos yn ystod 2-3 wythnos cyntaf y driniaeth. Gall ymddangos yn syml fel patshys o gochni hyd at wlseriad amlwg o fescosa y geg. Mae ei bresenoldeb yn gysylltiedig â dos o ymbelydredd a safle’r targed. Os defnyddir dull radio/cemotherapi, gall Mwcosgitis fod yn fwy difrifol. Mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng Mwcosgitis a briwiau bacteriol neu ffwngaidd a dylid cymryd swabiau o’r geg.
Gall radiotherapi leihau cynhyrchiant poer a niweidio blasbwyntiau. O ganlyniad i hynny gall cleifion gwyno bod bwyd yn blasu’n rhy hallt. Gall hynny arwain at lai o gymeriant neu newid i ddiet sydd yn uchel mewn siwgr. Fel arfer mae’r newid mewn blasu a’r llid yn rhywbeth dros dro, a bydd y blasu yn dod ato ei hun ymhen 3-4 mis ar ôl rhoi’r gorau i’r therapi. Ond gall ceg sych fod yn ffenomenon barhaus.
Mae triniaethau ar gyfer Mwcosgitis yn symptomatig a gallent gynnwys corticosteroidau ceg argroenol, gwrthasidyddion, lidocain argroenol a swcralffad (pob un heb eu trwyddedu). Weithiau bydd angen analgesia drwy’r geg.
Osteonecrosis
Mae Osteonecrosis o’r mandibl yn gymharol anghyffredin ond mae’n un o sgil effeithiau difrifol triniaeth ymbelydredd, ac mae’n arwain at ladd meinwe. Mae’n ymddangos fel briw hypocsig nad yw’n gwella ac weithiau bydd angen llawdriniaeth i dynnu’r meinwe (ac unrhyw ddannedd cysylltiedig) bydd y briw yn cael ei adael yn agored a bydd yn epitheleiddio maes o law.
Trismws
Anallu i agor y geg yn ddigonol. Gall hynny ddeilio naill ai o lawdriniaeth sydd yn amharu ar ffwythiant y cyhyrau/genau, neu o ffibrosis a achoswyd gan radiotherapi yn y cyhyrau cnoi. Y dull o reoli yw ffisiotherapi ac mae camau ataliol yn cynnwys annog symudiad yng nghyfnod y radiotherapi neu cyn gynted â phosibl ar ôl llawdriniaeth.