Ffactorau risg

Y prif ffactorau risg o ran datblygu canser y geg yw

  • Ysmygu
  • Alcohol
  • Firws papiloma dynol (HPV) 

Ysmygu llaw a cheg wrywaidd yn ysmygu sigarét

Mae pob math o ysmygu a chnoi tybaco yn cynyddu’r risg o ganser y geg. Mae effeithiau ysmygu yn gronnol, ac mae ysmygwyr trwm a phobl sydd yn ysmygu am gyfnodau hirach yn wynebu mwy o risg. Mae’r risg yn is mewn cyn ysmygwyr ac mae’r risg yn lleihau po bellaf maent yn mynd ers rhoi’r gorau iddi. Mewn dynion mae 75% o ganserau’r geg yn gysylltiedig ag ysmygu.

Alcohol

Mae alcohol yn ffactor risg annibynnol mewn perthynas â chanser y geg. Fel yn achos ysmygu mae’r effaith yn ddibynnol ar y dos ac mae yfed tri neu ragor o ddiodydd alcoholig bob dydd yn dyblu’r risg. Mae pob math o alcohol (cwrw, gwinoedd a gwirodydd) yn gynwysedig. Mae tua 20% o ganserau’r geg yn gysylltiedig ag alcohol.

Ysmygu ac Alcohol

Mae effeithiau ysmygu ac alcohol yn fwy nag adiol, gyda defnydd cymedrol o’r ddau (8-25 o ddiodydd yr wythnos a 20-40 o bacedi sigarennau y flwyddyn) yn rhoi’r unigolyn yn y categori risg uchel.

HPV

Mae yna gysylltiad cynyddol rhwng HPV a chanser y geg. Mae astudiaethau wedi canfod DNA HPV mewn 2 o bob 3 canser oroffaryngaidd (RCYF Chaturvedi AK2006 a 2011)  a dywedwyd bod HPV yn un o brif achosion canser y geg. Mae’r mathau o ganserau’r geg sydd yn gysylltiedig â haint HPV yn wahanol i’r rhai sydd yn gysylltiedig ag ysmygu ac alcohol. Mae’r cleifion yn bennaf yn iau, mae ganddynt lai o gysylltiad ag ysmygu ac alcohol ac mae’n tueddu’n fwy cyffredinol  i effeithio ar y tonsiliau a’r oroffaryncs.

Mae canser y geg cysylltiedig â HPV ar gynnydd mewn gwledydd datblygedig. Mae’r risg o ganser y geg cysylltiedig â HPV yn cynyddu gyda nifer y partneriaid rhywiol a chynnydd mewn ymddygiad rhywiol drwy’r geg. Felly mae’n bwysig i bobl gaiff ddiagnosis HPV eu bod yn ymwybodol o arwyddion a symptomau canser y geg.

Mae canserau’r geg cysylltiedig â HPV yn tueddi i fod â phrognosis gwell na chanserau’r geg nad ydynt yn gysylltiedig â HPV, yn arbennig gyda diagnosis a thriniaeth gynnar.

Cnoi tybaco a chnoi jou betel

tafod coch  gyda dannedd wedi pydru

Cnoi tybaco drwy osod darn o dybaco rhwng y foch a’r deintgig neu ddaint uchaf, a chnoi.

Mae jou betel yn gyfuniad o ddeilen fetel, cneuen areca a leim tawdd. Mewn nifer o wledydd ychwanegir tybaco. Gelwir y cyfuniad o dybaco a jou tybaco yn gutka, ghutka, neu gutkha.

Mae hynny yn cael ei ddefnyddio’n fwyaf aml drwy osod pinsiad o’r gymysgedd yn y geg rhwng y deintgig a’r foch a sugno a chnoi yn ysgafn. Mae’r poer a gynhyrchir drwy gnoi weithiau yn cael ei lyncu ond mae rhai yn ei boeri allan.

Mae cnoi tybaco a defnyddio jou betel yn gysylltiedig â mwy o risg o ganser y geg.

Mae ffactorau risg eraill yn cynnwys diet, ffactorau genetig, atal imiwnedd a golau’r haul. Mae  garsinoma celloedd cennog (SCC) ar y wefus yn tua tair gwaith mwy tebygol o fetastaseiddio na SCCau sydd yn deillio o rannau eraill y croen (mae hynny’n wir hefyd am SCC yn y glust fewnol).

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau