Goroesi canser y geg

Yn gyffredinol, bu gwelliant bychan mewn lefelau goroesi canser y geg yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf.

Goroesi ar ôl 5 mlynedd

Yn fyd-eang, mae 50% o’r bobl gaiff ddiagnosis canser y geg yn goroesi am bum mlynedd neu ragor ar ôl diagnosis, ac mae hynny i bob pwrpas yn ddigyfnewid ers y 1970au.

Yn ôl Ymchwil Canser y DU, mae 40% o bobl y DU gaiff ddiagnosis canser y geg yn goroesi am bum mlynedd neu ragor ar ôl diagnosis.  Yn gyffredinol, mae’r gyfradd goroesi pum mlynedd yng Nghymru yn tua 55%, ac nid oes llawer o dystiolaeth o welliant, fel y dangosir hynny isod.

Siart goroesi canser 5 10 mlynedd

Gall goroesi amrywio o 95% ar bum mlynedd ar gyfer canser y geg cam 1 i 5% ar bum mlynedd ar gyfer rhai canserau ar gam 4, yn ddibynnol ar leoliad y briw.

Yn achos pobl gaiff ddiagnosis o ganser y wefus, mae 90% yn goroesi am bum mlynedd neu fwy ar ôl diagnosis, yn achos canser y tafod, mae 60% o ferched a 40% o dynion yn goroesi am bum mlynedd neu ragor ar ôl diagnosis. Yn achos canserau’r geg nad ydynt ar y wefus neu’r tafod, mae 50% yn goroesi am 5 mlynedd neu ragor ar ôl diagnosis. Cyfeiriad: Ymchwil Canser y DU

Canser ceudod y geg (CO3, CO4, CO5, CO6): 2009-2013 Goroesi Net Un -, Pump a Deng Mlynedd (%), Oedolion 15-90 oed, Lloegr

Rhyw Ad Hoc

 

Goroesi Blwyddyn (%)

Goroesi 5 Mlynedd (%)

Goroesi 10 Mlynedd (%)

Dynion

Goroesi Net 77.8 53.5 42.2
95% LCL 76.5 51.7 39.8
95% UCL 79.0 55.2 44.6

Merched

 

Goroesi Net 79.2 59.8 49.6
95% LCL 77.6 57.7 46.6
95% UCL 80.7 61.9 52.5

Oedolion

Goroesi Net 78.4 56.1 45.2
95% LCL 77.4 54.7 43.4
95% UCL 79.3 57.4 47.1

95% LCL a 95% UCL yw'r terfynau hyder 95% yn is ac yn uwch

Rhagwelir goroesiad pum mlynedd a deng mlynedd gan ddefnyddio model ystadegol perygl gormodol

Source Cancer Research UK cruk.org/cancerstats

 

Mae cam y diagnosis yn effeithio ar oroesi, ac mae gan bobl gaiff ddiagnosis canser y geg cam 3 a 4 brognosis sy’n sylweddol llai ffafriol. Mae ffigyrau a gyhoeddwyd yn amrywio’n sylweddol, rhwng tua 95% a 5% yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau yn cynnwys lleoliad, math o ganser, cam y canser a ffactorau cysylltiedig â’r claf megis oedran, fel y dangosir hynny isod.

Ardal Lleol (cam 1 a 2)
% Goroesi ar ôl 5 mlynedd
Taeniad agos (cam 3)
% Goroesi ar ôl 5 mlynedd
Taeniad pell (cam 4)
% Goroesi ar ôl 5 mlynedd
Gwefus 93 48 52
Tafod 78 63 36
Llawr y geg 75 38 20
Data Americanaidd a gyhoeddwyd ar gyfer Canserau'r Geg (Cyfeiriad: cancer.org)

 

Goroesi ar ôl 1 mlynedd

Mae goroesi ar ôl 1 mlynedd wedi gwella rhywfaint yng Nghymru ac mae’r lefel goroesi ar ôl un flwyddyn erbyn hyn yn 82%

 

Astudiaethau achos

Mae dyn chwe deg pump oed yn mynd i weld ei Feddyg Teulu.

Mae ganddo wlser di-boen ar lawr ei geg o dan ei dafod. Mae wedi bod yna am o leiaf 4 wythnos. Mae ganddo hanes o ysmygu 20  y dydd am 30 mlynedd, ac mae wedi rhoi’r gorau i ysmygu 10 mlynedd yn ôl.

Mae archwiliad yn datguddio briw wlseraidd 1.2cm, nid oes dim nodau serfical yn amlwg ac mae gweddill ceudod y geg yn normal.

Lympiau canser ar y tafod

Beth ddylai'r meddyg teulu ei wneud?

Mae’r meddyg teulu yn dweud wrth y claf am fynd i weld ei ddeintydd gan egluro bod yr wlser o bosibl yn amheus.

Pa faterion mae hynny yn ei godi?

Chwe mis yn ddiweddarach mae’r claf yn mynd i weld y meddyg teulu eto. Mae ei wlser erbyn hyn yn boenus ac mae ganddo lwmp cadarn 1cm yn ei wddf ar yr un ochr.

Atgyfeiriodd y meddyg teulu y claf fel achos brys i Adran Llawdriniaeth Enol-wynebol leol. Dangosodd biopsi bod y briw yn garsinoma celloedd cennog. Roedd y claf angen hemigolectomi dyraniad bloc yn ei wddf.

Mae’r astudiaeth achos yma yn seiliedig ar achos gwir pan na ddilynodd y claf gyngor y meddyg teulu.  Yn ffodus, yn yr achos yma, nid oes arwyddion bod y clefyd yn ailymddangos wedi pum mlynedd.

A fyddai hyn yn digwydd yn eich practis chi?

Sut allech atal hynny rhag digwydd?


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau