Sut mae adrodd
Mae yna nifer o ffyrdd o adrodd am ADR i’r cynllun Cerdyn Melyn.
Gallwch adrodd yn uniongyrchol ar Wefan Cerdyn Melyn
Gallwch lenwi’r ffurflen cerdyn melyn oddi ar BNF/Mimms a’i phostio’n ôl (RHADBOST CERDYN MELYN).
Mae yna hefyd ap Cerdyn Melyn y gallwch ei lawrlwytho a’i ddefnyddio.
Mae yna hefyd ap Cerdyn Melyn y gallwch ei lawrlwytho a’i ddefnyddio.
Adrodd drwy Vision
Mae Vision yn eich galluogi i adrodd am ADR i gynllun Cerdyn Melyn yn uniongyrchol.
Nid yw’n gymhleth ond mae angen mynd drwy ychydig o gamau.
Cam 1: clicio ar Ychwanegu: Alergedd i Gyffur/Adwaith niweidiol
Cam 2: Ar ôl i chi lenwi manylion am yr Alergedd i Gyffur/Adwaith Niweidiol, cliciwch ar y tab Cerdyn Melyn. Bydd hynny yn ymestyn y set data fydd angen ei lenwi. Ar ôl i chi ei lenwi, cliciwch ar y tab Anfon Cerdyn Melyn.
Bydd sgrin newydd yn ymddangos fydd yn manylu ar y meddyginiaethau eraill y mae’r claf hefyd yn eu cymryd a’r adweithiau a brofir, a hynny wedi ei gysylltu â gwybodaeth flaenorol a ddarparwyd yn Vision. Gallwch ychwanegu at y sgrin hon os oes yna fwy o wybodaeth berthnasol (e.e. meddyginiaeth dros y cownter, adweithiau eraill, manylion testun rhydd etc.) Ar ôl cwblhau hynny, cliciwch ar y botwm Anfon ar waelod y sgrin.

Bydd yr ap yn gofyn i chi a ydych eisiau anfon y Cerdyn Melyn i MHRA, cliciwch Oes i’w anfon.
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich hysbysu ei fod wedi cael ei anfon a bydd hysbysiad Cerdyn Melyn yn ymddangos ar nodiadau’r claf.
Yn anffodus nid oes yna gysylltiad uniongyrchol drwy Microtest ar hyn o bryd.