Gwybodaeth a gesglir gan Gerdyn Melyn

Mae yna bedwar darn o wybodaeth critigol mewn adroddiad Cerdyn Melyn.

Cyffur a amheuir

Ar gyfer unrhyw ADR penodol mae’n bwysig cynnwys y modd y rhoddir y cyffur, amserlen dosio dyddiol, dyddiadau rhoi’r cyffur ac (yn achos brechiadau/meddyginiaethau biolegol), y brand a rhif y batsh.

Adwaith a amheuir

Mae’n fuddiol cynnwys pryd y digwyddodd yr adwaith yn ystod y driniaeth, difrifoldeb yr adwaith, unrhyw driniaeth a roddwyd a deilliant yr adwaith.

Manylion y claf

Mae’n bwysig gwybod beth yw oedran y claf ar adeg yr adwaith, rhyw y claf a’i bwysau os yn bosibl.  Dyluniwyd cronfa ddata Cerdyn Melyn i fod yn ddienw, felly nid oes angen enw llawn a dyddiad geni, ond gallai fod yn ddefnyddiol darparu llythrennau cyntaf a rhif adnabod lleol er mwyn adnabod y claf mewn unrhyw ohebiaeth i’r dyfodol.

Manylion y sawl sy’n adrodd

Mae MHRA yn cysylltu â phobl sydd yn adrodd o dro i dro er mwyn cael mwy o wybodaeth, felly mae’n bwysig darparu enw llawn yr unigolyn sydd yn adrodd (enw a chyfeiriad).

Gellir cynnwys manylion eraill os ydynt yn berthnasol. Er enghraifft, unrhyw feddyginiaeth arall a gymerwyd yn ystod y 3 mis olaf (yn cynnwys cyffuriau dros y cownter), hanes meddygol perthnasol ac alergeddau, canlyniadau profion, unrhyw wybodaeth am ail herio mewn perthynas â’r cyffur a amheuir.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau