Gwyliadwriaeth ffarmacolegol yng Nghymru

Mae’r adroddiadau Cerdyn Melyn wedi bod yn isel yn ystod y blynyddoedd diweddar. Er gwaethaf y nifer uchel o ddigwyddiadau ADR, tan 2013 ni fu erioed fwy na 1000 o adroddiadau am ADRau y flwyddyn ar draws Cymru gyfan. Pam? Mae’r rhesymau yn dal yn aneglur er ei bod yn debygol nad yw adroddiadau Cerdyn Melyn wedi bod yn flaenoriaeth oherwydd llwyth gwaith anferthol gweithwyr iechyd proffesiynol. Pan ofynnwyd iddynt pam nad oeddent wedi adrodd am ADRau, rhoddodd grŵp o feddygon amrywiaeth o resymau:

Fel y gellir gweld yn y modiwl yma, gellir herio nifer o’r seiliau cyfiawnhau yma yn hawdd, os nad y cyfan ohonynt. Gobaith Cynllun Cerdyn Melyn Cymru yw newid diwylliant gweithwyr iechyd proffesiynol o gwmpas y wlad a chynyddu’r adrodd.

Yn 2013, cyflwynwyd hyrwyddwyr fferylliaeth ysbyty er mwyn helpu i gynyddu nifer yr adroddiadau am ADR mewn gofal eilaidd. Arweiniodd hynny at gynnydd bychan yn yr adrodd. Yn 2015 roedd Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol am y tro cyntaf yn cynnwys adroddiadau Cerdyn Melyn gyda byrddau iechyd yn cael targed o 1 adroddiad ADR/2000 o boblogaeth practis/blwyddyn. Y canlyniad net yw twf cyson o adroddiadau am ADRau i dros 3000 ADR rhwng 2016-17. Efallai bod hynny yn gynnydd sylweddol mewn adroddiadau, ond o’i gymharu â’r nifer o ADR a amcangyfrifir ar gyfer unrhyw flwyddyn benodol, nid yw’n fwy na diferyn yn y môr.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau