Adweithiau Niweidiol i Gyffuriau

Mae ADRau yn broblem fawr mewn meddyginiaeth fodern. Amcangyfrifir y bydd hyd at 40% o gleifion yn y gymuned yn cael profiad o un. Maent i gyfrif am 6.5% o’r oedolion a dderbynnir i ysbyty, a 2.1% o’r plant, ac mae ADRau difrifol yn digwydd i 6.7% o gleifion mewn ysbytai - mae 0.15% o gleifion mewn ysbyty yn cael ADRau marwol. ADRau yw’r 4ydd achos marwolaeth mwyaf cyffredin yn UDA, ac amcangyfrifir ei fod yn costio £466m i’r GIG.

Gallent fod yn rhagweladwy ac yn gysylltiedig â dos (Math A) neu’n anrhagweladwy a ddim yn gysylltiedig â dos (Math B). Nifer fechan o’r olaf sydd yn digwydd, ac mae hynny’n rhy anaml i sylwi arno mewn treialon cyn marchnata, ac efallai nad ydynt yn hysbys ar adeg marchnata. Mae ffactorau all effeithio ar ADRau yn cynnwys:

  • Dos y feddyginiaeth pan fo ADR yn digwydd
  • Pryd mae ADR yn dechrau ar ôl cymryd y feddyginiaeth
  • Amrywiolion mewn cleifion allai effeithio ar y tebygolrwydd bod ADR yn digwydd. Mae’r rhain y cynnwys rhyw, oed, cydafiachedd, geneteg, cyffuriau/bwyd alldarddol a beichiogrwydd ymysg eraill.

Mae gan y Cynllun Cerdyn Melyn ddiddordeb mewn pob ADR yn achos meddyginiaethau a brechiadau sefydledig, hyd yn oed os yw’r effaith eisoes wedi ei gydnabod yn helaeth. Gall hynny helpu i ganfod grwpiau clwstwr ble gall yr ADR fod yn fwy cyffredin. Ond mae gan MHRA ddiddordeb penodol mewn meysydd penodol:

Cyffuriau triongl du

Mae meddyginiaethau a brechiadau newydd yn destun monitro ychwanegol ac mae ganddynt symbol triongl du gwrthdroëdig ar eu taflen crynodeb, ac wrth eu henwau yn BNF a MIMS. Mae trionglau du yn cael eu cymhwyso i bob meddyginiaeth a brechiad sydd wedi cael eu marchnata yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gellir eu haseinio hefyd i feddyginiaeth sydd eisoes wedi ei thrwyddedu os yw’n cynnwys cyfuniad o gemegau actif neu os yw’n cael ei ddefnyddio mewn ffordd newydd ar gyfer cyflwr gwahanol. Mae’r rhestr o gyffuriau triongl du yn cael ei chynnal ar hyn o bryd gan yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd (EMA).

Plant

Mae ffarmacoddeinameg a ffarmacogeneteg meddyginiaethau yn amrywio gydag oedran. Nid yw’r rhan fwyaf o’r cyffuriau ar adeg eu marchnata wedi cael eu profi’n eang ar blant ar gyfer eu defnyddio, ac mae llawer o’r defnydd a wneir ohonynt “oddi ar y label”, felly mae’n arbennig o bwysig monitro ar gyfer ADRau yn y grŵp yma.

Pobl dros 65 oed

Yn yr un modd, mae ffarmacogeneteg cyffuriau yn cael ei addasu mewn pobl hŷn, gyda llai o gliriad hepatig ac arennol, a symiau dosbarthu gwahanol yn achos rai cyffuriau. Mae ffarmacoddeinameg hefyd yn wahanol, gyda sensitifrwydd gwahanol i gyfansoddion amrywiol. O ganlyniad i hynny, mae amlder a difrifoldeb ADRau yn newid yn y boblogaeth yma o gleifion.

Meddyginiaethau biolegol

Mae’r rhain yn cynnwys brechiadau, cynhyrchion gwaed, gwrthgyrff a therapïau uwch. Mae’r meddyginiaethau yma yn llawer mwy cymhleth na chyffuriau safonol ac yn aml nid yw eu nodweddion yn union yr un fath. Mae MHRA yn awyddus i fonitro ADRau ar sail brand/cynnyrch penodol oherwydd gallent amrywio o un batsh i’r llall.

Effeithiau cyffuriau prin neu ohiriedig

Weithiau gall ADR ddigwydd fisoedd neu flynyddoedd ar ôl cymryd y cyffur. Defnyddiwyd Gwrthseicotigau am y tro cyntaf yn 1949 ond roedd hi’n ganol y pum degau ar feddygon yn dechrau sylwi bod cleifion oedd yn eu cymryd yn profi dyscinesia camsymud araf ac effeithiau pyramidaidd ychwanegol eraill. Mae ADRau eraill mor brin fel bod y treialon cyn marchnata yn annhebygol o adrodd amdanynt. Mae syndrom Reye yn achos prin iawn o hepatitis ac enceffalopathi a welir mewn plant sydd yn cymryd aspirin ar gyfer afiechydon feirysol cyffredin megis brech yr ieir. Oherwydd ei fod mor brin, fe gymerodd wyth degawd i ganfod y risg ar ôl i aspirin ddod ar y farchnad. Ni fydd y sgil effeithiau prin a gohiriedig yma yn cael eu canfod mewn treialon clinigol cyn marchnata, felly mae’n bwysig bod unrhyw gysylltiad posibl y cael ei riportio i’r Cynllun Cerdyn Melyn.

Rhyngweithiadau cyffuriau

Gall cyffuriau addasu ffarmacogeneteg (e.e. lleihau neu gynyddu metaboledd) a ffarmacoddeinameg (e.e. achosi effeithiau yn cynnwys ADRau) ei gilydd. Gall amlder rhyngweithiadau cyffur-cyffur gynyddu yn ôl nifer y meddyginiaethau a gymerir. Er bod cyffur yn cael ei fonitro’n helaeth cyn ei farchnata, oherwydd maint  cyfuniadau o feddyginiaethau y gall cleifion fod yn eu cymryd, ni fydd nifer o’r rhyngweithiadau yma yn hysbys cyn marchnata.

Anghysonderau cynhenid

Os caiff baban ei eni ag abnormaledd cynhenid, neu os bydd beichiogrwydd yn arwain at ffoetws camffurfiedig a erthylir, mae’n bwysig ystyried a allai hynny fod yn cynrychioli ADR i feddyginiaeth ac anfon adroddiad Cardiau Melyn os yw hynny’n briodol.

Meddyginiaethau perlysieuol a chynhyrchion e-sigarennau

Yn aml mae meddyginiaethau perlysieuol a chynhyrchion e-sigarennau yn cael eu rhoi dros y cownter mewn allfeydd ar wahân i fferyllfeydd, ac oherwydd hynny mae’r rheoleiddio arnynt yn gyfyngedig. Ychydig iawn fydd wedi bod yn destun treialon clinigol trwyadl cyn marchnata fel meddyginiaethau trwyddedig. Mae MHRA yn monitro diogelwch y cynhyrchion trwyddedig ac anhrwyddedig yma, ac maent yn awyddus i gael eu hysbysu am unrhyw ADRau posibl.

Dyfeisiau meddygol

Dylid riportio unrhyw ddigwyddiad niweidiol sydd yn ymwneud â dyfais feddygol i ni gyda chymaint o wybodaeth â phosibl. Os yw’r digwyddiad yn ddifrifol, efallai y bydd angen i’r heddlu neu grwner archwilio’r ddyfais, felly mae’n bwysig peidio â cheisio  ei atgyweirio neu ei daflu i ffwrdd.

Fel yn achos pob maes meddygaeth, nid yw gwyliadwriaeth ffarmacolegol yn wyddoniaeth cwbl gywir. Os oes gan weithiwr iechyd proffesiynol amheuaeth, ond nid yw’r sicr bod yr ADR yn deillio o gyffur penodol, mae’n dal yn bwysig anfon Cerdyn Melyn. Os yw’r gweithiwr iechyd proffesiynol yn amau bod yr ADR eisoes wedi cael ei riportio, ond bod ganddynt fwy o wybodaeth berthnasol, anfonwch Gerdyn Melyn arall oherwydd gall MHRA gysylltu’r wybodaeth. Byddai’n well gan  MHRA weld gor-riportio na than-riportio.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau