Hanes y Cynllun Cerdyn Melyn

Nid oes unrhyw driniaeth sydd yn 100% ddiogel. Dros y canrifoedd mae nifer o driniaethau wedi cael eu ffafrio a’u hanffafrio, ar ôl pwyso a mesur y manteision a’r anfanteision. Yn ystod yr 20fed Ganrif, bu ffrwydrad o feddyginiaethau newydd ar y farchnad, oedd yn gwella afiechydon oedd yn arfer bod yn farwol cyn hynny, a lliniaru symptomau arferid eu dioddef. Roedd yn gyfnod cyffrous i feddyginiaeth, ond roedd yna gost o ganlyniad i’r ymchwydd anferthol.

Datblygwyd Thalidomid yn y 1950au gan y cwmni o Orllewin yr Almaen  Chemie Grünenthal GmbH. Roedd y cwmni yn ei farchnata fel cyffur “diniwed” ar ôl i dreialon yn glinigol ddangos ei bod bron yn amhosibl cymryd gorddos farwol. Ym mis Gorffennaf 1956 fe’i rhyddhawyd i’w brynu dros y cownter yn yr Almaen a nifer o wledydd Ewropeaidd eraill ar ffurf Grippex (cyffur a werthwyd yn bennaf fel tawelydd/cyffur hypnotig). Sylwyd yn fuan ei fod yn helpu gyda chyfog, felly yn 1957 fe’i trwyddedwyd hefyd ar gyfer salwch boreol (Contergan yn Yr Almaen/Distaval yn y DU). Daeth i fod yn un o’r cyffuriau mwyaf poblogaidd yn y cyfnod, er gwaethaf dim ymchwil cyn marchnata oedd yn benodol yn chwilio am effeithiau’r cyffur yn ystod beichiogrwydd, ac fe’i hysbysebwyd fel cyffur cwbl ddiogel yn ystod beichiogrwydd. Yn fuan ar ôl ei ryddhau daeth adroddiadau am niwropathi perifferol cysylltiedig â thalidomid. Hefyd roedd adroddiadau am nam geni difrifol oedd yn effeithio ar nifer y systemau’r corff yn dod i’r amlwg, nad oeddent ar y cychwyn yn cael eu cysylltu â thalidomid neu y gwadwyd eu bod yn gysylltiedig. Ym mis Hydref 1960, mewn   cyfarfod pediatrig yn Kassel, cyflwynwyd dau achos o anffurfiad difrifol o aelodau’r corff. Ychydig iawn o bobl oedd yn bresennol oedd wedi gweld namau cyffelyb ar aelodau, ond ni nodwyd cysylltiad ffurfiol. Yn 1961 disgrifiodd Wiedemann 13 o fabanod yr effeithiwyd arnynt a atgyfeiriwyd ato dros gyfnod o 10 mis, a nododd ei fod yn epidemig. Yn Nhachwedd 1961, awgrymodd Lenz bod yr anffurfiadau yma yn ganlyniad i famau yn peidio â chymryd eu thalidomid. Awgrymodd McBride yn Awstralia rywbeth tebyg tua’r un adeg. Daeth cadarnhad o’r awgrymiad yma yn gyflym o bob rhan o Ynysoedd Prydain, Cenya, Japan, Sweden, Gwlad Belg, y Swistir, Lebanon, Israel, Periw, Canada, Brasil, Yr Iseldiroedd ac UDA. Yn fuan roedd yn amlwg bod niferoedd y namau cynhenid i aelodau yn llawer uwch yn y gwledydd  ble defnyddiwyd y cyffur ar raddfa fawr (e.e. Yr Almaen) o’i gymharu ag UDA ble roedd y defnydd yn gyfyngedig iawn. Ar ôl pwysau anferthol gan y cyfryngau, tynnwyd thalidomid oddi ar y farchnad o’r diwedd yn 1962. Amcangyfrifir bod dros 10,000 o fabanod wedi cael eu geni gydag anableddau cysylltiedig â thalidomid yn fyd-eang. Nid yw'n hysbys faint o’r achosion hynny ellid fod wedi eu hatal petai meddygon wedi riportio eu pryderon yn gynharach.

Yng ngoleuni’r sgandal yma, trodd y sylw at reoleiddio meddyginiaethau. Yn y DU, pasiwyd Deddf Meddyginiaethau 1968 er mwyn goruchwylio’r gwaith o drwyddedu meddyginiaethau cyn rhoi caniatâd iddynt gael mynediad i farchnad y DU. Mae hynny yn cael ei oruchwylio gan y Pwyllgor Diogelwch Cyffuriau a dylanwadir arno gan ddeddfwriaeth Ewropeaidd ar feddyginiaethau. Yn 1989, crëwyd yr Asiantaeth Reoli Meddyginiaethau, sydd ers 2003 wedi uno â’r Asiantaeth Dyfeisiau Meddygol er mwyn ffurfio Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynnyrch Gofal Iechyd (MHRA). Mae MHRA yn gweithio’n agos gyda’i asiantaeth Ewropeaidd cyfatebol, Asiantaeth Meddyginiaethau Ewropeaidd (EMA) er mwyn monitro meddyginiaethau/offer meddygol sydd ar y farchnad, ac mae ganddo bwerau cyfreithiol i dynnu cynhyrchion oddi ar y farchnad neu i atal eu cynhyrchu. Mae’r Cynllun Cerdyn Melyn yn rhan annatod o’r broses fonitro yma. Fe’i datblygwyd gan Bill Inman yn 1964 a hon yw system y DU ar gyfer casglu gwybodaeth ar ryngweithio niweidiol a  amheuir gyda meddyginiaethau a brechiadau. Fe’i datblygwyd ar y cychwyn i feddygon yn unig, ac fe’i estynnwyd i fferyllwyr ar ddiwedd y 1990, ac erbyn hyn mae’n agored i aelodau’r cyhoedd.

 


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau