Effeithlonrwydd - Gwerth isel ar gyfer rhagnodi
Nod y dogfennau hyn yw lleihau presgripsiynu meddyginiaethau sy'n cynnig budd clinigol cyfyngedig i gleifion a lle gallai fod triniaethau mwy cost-effeithiol ar gael.
Lansiwyd cam cyntaf y fenter yn 2017, a datblygwyd dau gam ychwanegol wedi hynny. Bydd y dangosydd hwn yn adrodd ar wariant fesul 1,000 o gleifion ar gyfer pob eitem a gynhwysir cam 1 a 2 y fenter.
Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon
Mae'r graff isod yn dangos gwariant fesul 1,000 o gleifion ar eitemau yng ngham 1 a 2 o'r fenter Gwerth isel ar gyfer Rhagnodi
Tuedd mewn gwariant (£) am bob 1,000 o gleifion ar y meddyginiaethau a nodwyd fel gwerth isel ar gyfer rhagnodi yn GIG Cymru
Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon
Sut y gellir gwneud newidiadau?
- Dylai rhagnodwyr ystyried y Gwerth isel ar gyfer Rhagnodi wrth benderfynu a ddylid rhagnodi unrhyw un o’r eitemau sydd wedi’u cynnwys ai peidio.
- Dylai newidiadau yn y rheolaeth ar feddyginiaethau unigolion gael eu gwneud mewn partneriaeth â chleifion gan ddefnyddio’r model penderfynu ar y cyd.
Adborth
Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen hon, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.