Diogelwch – Dangosyddion Diogelwch Rhagnodi
Mae’r Dangosyddion Diogelwch Rhagnodi yn set o ddangosyddion a ddatblygwyd i adnabod cleifion sy’n wynebu risg fawr o brofi adweithiau niweidiol i gyffuriau a digwyddiadau cysylltiedig â meddyginiaethau mewn gofal sylfaenol.
Amcangyfrifwyd bod tua 6.5% o’r derbyniadau i’r ysbyty yn y DU yn ymwneud ag adweithiau niweidiol i gyffuriau, felly bydd proses i adnabod cleifion sy’n wynebu’r risg o adweithiau niweidiol yn rhoi’r gallu i ymyrryd, a bydd yn helpu i osgoi niwed.
Gellir rhag-weld adweithiau niweidiol i gyffuriau mewn llawer achos, fel bod modd eu nodi a rhoi sylw iddynt cyn i’r claf gael niwed.
Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon
Sut y gellir gwneud newidiadau?
- Adolygu cleifion y nodwyd eu bod yn wynebu risg fawr o brofi adweithiau niweidiol i gyffuriau a niwed cysylltiedig â meddyginiaethau, gan sicrhau bod y camau a gymerwyd yn cael eu cofnodi’n glir a’u codio’n briodol.
- Efallai y byddwch am gytuno ar y geiriad o fewn y practis i’w ddefnyddio ochr yn ochr â chod Read neu SNOMED priodol, i nodi bod y claf wedi cael ei adolygu o dan y Dangosyddion Diogelwch Rhagnodi.