Meysydd Blaenoriaeth: Defnyddio gwrthgeulyddion i drin ffibriliad atrïaidd - Adolygiad gwrthgeulyddion
Dylai cleifion gael cyfle i drafod meddyginiaeth gwrthgeulo a’r dewis o wrthgeulydd â’u meddyg teulu bob blwyddyn, neu’n fwy aml os bydd unrhyw newid yn y risg o waedu neu mewn ffactorau clinigol perthnasol eraill.
Drwy gael adolygiad gyda’r claf, bydd cyfle hefyd i wella’r ymlyniad wrth driniaeth ac i roi mwy o wybodaeth am y rhyngweithio rhwng cyffuriau a bwyd. Mae angen bod yn wyliadwrus wrth gymryd Warfarin a’r gwrthgeulyddion uniongyrchol a gymerir drwy’r geg oherwydd y cymhlethdodau difrifol sy’n gallu codi o ganlyniad i gydymffurfio gwael â chyfarwyddiadau a rhyngweithio.
Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon
- Mae’n hollbwysig cynnal yr adolygiad o gleifion â FfA sy’n cymryd gwrthgeulydd.
- Mae’r defnydd o unrhyw wrthgeulydd yn cael ei gysylltu â rhai rhyngweithiadau rhwng cyffuriau a all gynyddu’r risg o waedu difrifol neu leihau’r gallu i atal strôc.
- Canllaw Ffibriliad atrïaidd NICE: diagnosis a rheolaeth yn tynnu sylw at yr angen i adolygu meddyginiaeth gwrthgeulo ac ansawdd y gwrthgeulo bob blwyddyn o leiaf, neu’n fwy aml os ceir digwyddiadau clinigol berthnasol sy’n effeithio ar wrthgeulo neu’r risg o waedu.
- Mae Datganiad Ansawdd 3 yn Safon Ansawdd NICE ar Ffibriliad Atrïaidd yn dweud ei bod yn bwysig bod oedolion â ffibriliad atrïaidd sy’n cael gwrthgeulydd ar bresgripsiwn yn trafod yr opsiynau â’u gweithiwr gofal iechyd proffesiynol o leiaf unwaith y flwyddyn.
- Dylai cleifion gael cyfle i drafod y dewis o wrthgeulyddion addas â’u gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, er mwyn gwella’r ymlyniad wrth driniaeth.
- Mae ymlyniad wrth driniaeth am wrthgeulo yn gallu helpu i atal strôc drwy ei gwneud yn llai debygol i glotiau gwaed ymffurfio.
Canran y cleifion â ffibriliad atrïaidd y rhagnodir gwrthgeulydd iddynt ac sydd wedi derbyn adolygiad gwrthgeulydd o fewn y 12 mis diwethaf
Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon
Sut y gellir gwneud newidiadau?
- Adolygu cleifion sy’n cael therapi gwrthgeulo bob blwyddyn o leiaf, neu’n fwy aml os ceir digwyddiadau clinigol berthnasol sy’n effeithio ar wrthgeulo neu’r risg o waedu.
- Sicrhau bod codau Read priodol yn cael eu defnyddio wrth adolygu cleifion
- Gellid datblygu templed ymarfer i sicrhau bod yr holl ffactorau perthnasol yn cael eu hystyried wrth adolygu gwrthgeulyddion.