Rheoli cur pen sylfaenol mewn pobl dros 12 oed

Wrth reoli pob anhwylder cur pen ystyriwch ddefnyddio dyddiadur cur pen. Bydd hynny yn helpu i ddeall amledd, hyd a difrifoldeb yr ymosodiadau, effeithiolrwydd yr ymyriadau, presenoldeb neu absenoldeb ffactorau ysgogi, gall ddatgelu patrwm cysylltiedig â mislif, a gall fod yn sail ar gyfer trafod effaith y cur pen ar yr unigolyn.

Fel rhan o’r broses reoli, dylid gwneud diagnosis a rhoi sicrwydd i’r claf bod patholeg arall wedi cael ei ddiystyru. Gellir rhoi gwybodaeth ysgrifenedig neu ddolenni at wefannau cymorth (gweler yr adran adnoddau). Dylid trafod opsiynau rheoli a  dylid cyfeirio at risg cur pen gorddefnyddio meddyginiaeth.

Cur pen math tensiwn

Mae NICE yn argymell triniaeth gydag asprin, paracetamol neu NSAID ac maent yn cynghori peidio â defnyddio codin. Ar gyfer proffylacsis cur pen math tensiwn cronig, maent yn argymell ystyried cwrs o aciwbigo (10 sesiwn).

Meigryn gyda neu heb awra

Dylai triniaeth ar gyfer meigryn gael ei deilwra ar gyfer yr unigolyn, a dylid ystyried triniaeth acíwt a proffylactig gyda’r claf. Gall triniaeth acíwt ar gyfer meigryn fod yn fonotherapi gyda thriptan drwy’r geg (ffroenol ar gyfer pobl ifanc 12-17 oed), Aspirin 900mg, Paracetamol ne NSAID. Wrth ystyried therapi deuol dylid defnyddio triptan drwy’r geg a Pharacetamol neu driptan drwy’r geg gyda NSAID.

Gelli ychwanegu gwrthemetigau (metoclopramid neu procloperasin) hyd yn oed yn absenoldeb cyfog a chwydu. Os bydd triniaeth drwy’r geg yn aneffeithiol, dylid ystyried dulliau nad ydynt drwy’r geg. Ni ddylid defnyddio ergotau nac opioidau.

Os gellir adnabod ffactorau ysgogi a’u haddasu neu eu hosgoi, dylid gwneud hynny (eto, gall dyddiadur fod yn ddefnyddiol).

Pan fo angen triniaeth proffylactig, dylid cynnig propranolol neu dopramat yn gyntaf ac ystyried amitriptylin mewn cleifion addas. (Mae topramat yn achosi risg o abnormaleddau yn y ffestwd ac mae’n effeithio ar effeithiolrwydd dulliau atal cenhedlu hormonaidd). 

Nid oes gan gapapentin unrhyw rôl ym mhroffylacsis meigryn, ond mae NICE yn cynghori y gallai aciwbigo helpu, a hefyd Riboflavin 400mg yn ddyddiol.

Gellir trin meigryn mislifol gwrthsafol gyda frofatriptan (2.5mg dwy waith y dydd) neu solmitriptan (2.5mg dwy neu dair gwaith y dydd) ar y dyddiau y disgwylir y meigryn.

Yn ystod meigryn, Paracetamol yw’r dewis gyffur, er bod NICE yn awgrymu y gellir defnyddio triptaniaid a NSAID ar ôl trafod y risgiau sydd yn gysylltiedig â’u defnyddio. Gellir cael mynediad at CKS NICE ar feichiogrwydd yma

Cur pen clwstwr

Yn ffodus mae cur pen clwstwr yn brin, ac oherwydd hynny ni welir y cyflwr yn aml mewn gofal sylfaenol. Pan fo cur pen yn cael ei gyflwyno gyntaf dylai’r meddyg teulu gael cyngor gan arbenigwr cur pen ynghylch yr angen i ddelweddu. Y triniaethau llinell flaen yw ocsigen 100% (12L mun) a thriptan parenterol. Mae NICE yn cynghori yn erbyn defnyddio Paracetamol, NSAID, Opiods, Ergots o driptanau drwy'r geg. Gellir ystyried ferapamil ar gyfer triniaeth proffylactig, ond fel arfer mae angen dosau uchel ac efallai bydd angen i feddygon teulu geisio cyngor arbenigol ynglŷn â’r dos, a monitro hynny. Mae angen cyfranogiad arbenigol mewn achosion nad ydynt yn ymateb ac mewn beichiogrwydd.

Cur pen gorddefnyddio meddyginiaeth

Mae cur pen gorddefnyddio meddyginiaeth yn cael ei drin drwy roi’r gorau i gymryd y cyfrwng achosol ar unwaith. Gall gymryd mis neu ragor i’r cur pen leddfu a dylid adolygu’r claf er mwyn cadarnhau bod y cur pen wedi lleddfu 6-8 wythnos ar ôl rhoi’r gorau i gymryd y feddyginiaeth. Os bydd cyflwr cur pen sylfaenol tanategol (meigryn yn aml) yn bresennol, dylid cynnig proffylacsis o’r cyflwr hwnnw.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau