Cur pen mewn plant dan 12 oed

Mae cur pen yn gyffredin mewn plant gyda hyd at 70% o blant oed ysgol yn dioddef cur pen o leiaf unwaith y flwyddyn, bydd 40% o blant 7 oed yn cael cur pen mynych cronig ac mae’r ffigwr hwnnw yn codi i 70% neu’n uwch erbyn 15 oed. Mae cur pen hyd at oed aeddfedrwydd yn fwy cyffredin mewn bechgyn, ond ar ôl oed aeddfedrwydd mae’r cyffredinolrwydd yn dod i fod yn fwy mynych ymysg merched. 

Mae asesu cur pen mewn plant yn debyg iawn i asesu mewn oedolion, ond mae gan achosion y cur pen sbectrwm gwahanol. Gall y rhiant pryderus fod yn ffactor mewn perthynas â phoeni am batholeg tanategol difrifol. 

Mae hanes ac archwilio yn ffactorau allweddol o ran penderfynu ar yr aetioleg a phenderfynu ar y dull o reoli yn syth ac yn y tymor canolig. Mae'r hanes yn sefydlu patrwm y cur pen, tra bod archwilio yn cael ei anelu at ddiystyru achos eilaidd. 

Pan gyflwynir y cur pen gyntaf, dylai’r hanes gynnwys 

  • Cyfnod yr hanes o gur pen 
  • Hyd pob pennod
  • Llymder poen - Ystyriwch defnyddio graddfa mesur 'poen gwyneb'. (Defnyddiwch y ddolen yma ar gyfer oedolion neu yma ar gyfer plant.)
  • Amledd
  • Lleoliad 
  • Patrwm (faint or gloch, gweithgaredd, dim ond ar ddyddiau ysgol etc.) 
  • ysgogiadau (diddordebau, gweithgaredd, diet, gemau fideo) 
  • Awra/rhybudd 
  • Symptomau cysylltiedig 
  • Lles seicolegol (ffrindiau, bwlio, cynnydd yn yr ysgol, materion yn y cartref) 

Gall yr hanes arwain yr archwiliad cychwynnol, ond dylai’r meddyg teulu ystyried:- 

  • Tymheredd a churiad y galon
  • Pwysedd gwaed
  • Lefel bywiogrwydd/rhyngweithio
  • Tystiolaeth o glefydau feirysol
  • Asesu annifyrrwch meningeaidd
  • Archwilio a theimlo’r pen am drawma
  • Archwiliad niwrolegol priodol -yn cynnwys Ffwndosgopi
  • Archwilio’r croen am frechau neu gamffurfiad fasgwlaidd 

Gall archwiliad niwrolegol manwl sydd yn canolbwyntio ar gyflwr meddyliol, cydlyniant, atgyrchion tendon dwfn, synhwyraidd, echddygol, symudiad y llygaid ac archwiliad ffwndoscopig, ddiystyru tiwmor ar yr ymennydd mewn 98% o achosion (The Childhood Brain Tumour Consortium, 1991) 

Fflagiau coch 

  • Hanes byr - yn arbennig yn achos y cur pen cyntaf neu’r gwaethaf erioed
  • Cur pen mynych yn cael eu disgrifio fel difrifol am 2 wythnos neu fwy
  • Newid yng nghymeriad y cur pen -yn arbennig dros gyfnod byr
  • Cyflymu o ran amledd/dwyster
  • Deffro gyda chur pen, chwydu yn y boreau, yn waeth gyda pheswch neu wrth gwmanu/cyrcydu 
  • Plant dan 3 oed 
  • Hanes o salwch systemig 
  • Dryswch, gostyngiad mewn ymatebolrwydd, newid sydyn mewn personoliaeth, twymyn neu ffitiau 
  • Cysondeb o ran lleoliad y cur pen mynych 

Mesur cur pen cronig 

Pan fo’r archwiliad cychwynnol wedi diystyru cyflwr difrifol uniongyrchol gellir mynd ati i archwilio a rheoli yn y tymor canolig. Gall y meddyg teulu ystyried profion gwaed arferol, ond mae’n annhebygol y bydd y rhain yn helpu’r diagnosis. Gall fod yn ddefnyddiol rhoi dyddiadur cur pen i’r plentyn/rhieni a graddfa boen weledol briodol a threfnu apwyntiad dilynol. 

Lawrlwytho dyddiadur cur pen  

Graddfa boen weledol hyd at 8 oed  

Graddfa boen weledol  7+ oed  


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau