Asesu

Asesu

Mae’r broses o asesu’r glasoed neu oedolyn â chur pen yn dilyn llawer o’r hyn a ddisgrifiwyd yn flaenorol ar gyfer plant. Y prif wahaniaeth yw bod yna rai achosion oedran benodol sydd angen eu hystyried.

Mae NICE yn disgrifio dull fesul cam o asesu:-

  • Asesu’r posibilrwydd bod mwy nag un anhwylder cur pen yn bresennol
  • Asesu ar gyfer symptomau:-
    • Achosion eilaidd difrifol
    • Gorddefnyddio meddyginiaeth
    • Cur pen math tensiwn a meigryn
  • Archwilio am achosion eilaidd
  • Os na ellir diagnosio’r achos
    • Defnyddiwch  ddyddiadur cur pen
    • Ystyriwch atgyfeirio am asesiad

Dylai’r hanes cychwynnol ofyn o leiaf

  • A oes yna un neu fwy nag un math o gur pen?
  • Pryd dechreuodd y cur pen?
  • pa mor aml?
  • Am ba hyd maent yn para?
  • Lleoliad y cur pen? A oes yna fwy nag un lleoliad?
  • Dwyster y boen?
  • Ffactorau achosol?
  • Beth sydd yn gwaethygu’r boen?
  • Beth sydd yn gwella’r boen?
  • Defnydd/gorddefnydd o feddyginiaeth?
  • Symptomau cysylltiedig
    • Aflonyddwch gweledol (pryd)?
    • Cyfog neu chwydu
    • Penysgafn neu chwil
    • Poen abdomenol
  • Iach rhwng ymosodiadau?

Dylai’r archwiliad gynnwys

  • Mesur pwysedd gwaed.
  • Teimlo’r rhydwelïau arleisiol, os yw’r unigolyn dros 50 oed.
  • Archwiliad niwrolegol, yn cynnwys ffwndosgopeg ar gyfer papiloedema.
  • Archwilio’r gwddf ar am sensitifrwydd, anhyblygrwydd a chyfyngiadau i symudiad yn y gwddf.

Gellir lawrlwytho dyddiadur cur pen yma

Gellir lawrlwytho graddfa analog weledol ar gyfer dwyster poen yma

Patrymau cur pen

 

Gelwir patrwm 1 yn gronig nad yw’n gwaethygu. Dyma’r patrwm a welir gyda’r cur pen sylfaenol a elwir yn math tensiwn. Er y gall cur pen math tensiwn fod yn seicogenig o ran ei aetioleg, gall nifer o ffactorau eraill fod yn gysylltiedig.

Gelwir patrwm 2 yn gronig sydd yn gwaethygu Mae hwn yn batrwm fflag goch  dylai ysgogi atgyfeirio prydlon ar gyfer ymchwiliad. Fe’i gwelir mewn Hydroseffalws, Tiwmor yr Ymennydd, Crawniad yr Ymennydd a Phwysedd Gwaed Uchel Mewngraniol Anfalaen.

Mae patrwm 3 yn  nodweddiadol o feigryn; bydd dosbarthu pellach yn dibynnu ar symptomau eraill a nodir yn y dyddiadur cur pen.

Mae patrwm 4 yn acíwt neu gronig nad yw’n gwaethygu, a dylid ystyried y posibilrwydd o feigryn sydd yn cydfodoli gyda chur pen tensiwn cefndirol.

Mae BASH yn rhestru’r nodweddion rhybudd yn yr hanes fel:-

  • Cur pen sydd yn newydd neu’n annisgwyl mewn claf unigol
  • Cur pen fel taran (cur pen dwys sydd yn dechrau’n ddisymwth neu’n “ffrwydrol”)
  • Cur pen gydag awra annodweddiadol (yn para >1 awr, neu sydd yn cynnwys gwendid echddygol)
  • Awra sydd yn digwydd am y tro cyntaf mewn claf tra’n defnyddio dulliau atal cenhedlu cyfun drwy’r geg
  • Cur pen newydd mewn claf hŷn dros 50 oed
  • Cur pen newydd mewn claf llai na 10 oed
  • Cur pen boreol parhaus gyda chyfog
  • Cur pen cynyddol, yn gwaethygu dros gyfnod o wythnosau neu hirach
  • Cur pen cysylltiedig â newid osgo
  • Cur pen newydd mewn claf â hanes o ganser

Cur pen newydd mewn claf â hanes o haint HIV.

 

Adborth

Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen hon, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau