Cefndir
Mae cur pen yn eithriadol gyffredin yn y DU. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn rheoli cur pen achlysurol eu hunain, bydd rhai yn cymryd meddyginiaeth OTC ohonynt eu hunain, ond bydd cyfran fechan yn mynd i weld y fferyllydd neu Bractis Cyffredinol.
Mathau o gur pen (a drafodir yn fanylach yn ddiweddarach yn y modiwl)
Cur pen sylfaenol
Cur pen math tensiwn (a elwir weithiau yn “arferol”)
- Meigryn (ac is fathau)
- Cur pen clwstwr (a seffalagiau awtonomig trigeminol prinnach)
- Anhwylderau cur pen sylfaenol eraill (e.e. cur pen a ysgogir gan oerni)
Cur pen eilaidd
- Cur pen anhwylder seiciatrig
- Cur pen gorddefnyddio meddyginiaeth
- Cur pen rhoi’r gorau i gymryd meddyginiaeth (yn cynnwys cur pen rhoi’r gorau i yfed alcohol)
- Cur pen trawma pen neu wddf
- Cur pen anhwylder fasgwlaidd (e.e. SAH neu GCA)
- Cur pen mewngranial (briw meddiannu gofod, pwysedd gwaed uchel mewngranial idiopathig)
- Cur pen a achosir gan haint (nail ai haint mewngranial neu systemig)
- Cur pen a chosir gan bwysedd gwaed uchel
- Cur pen a achosir gan e.e. sinysau, gwddf OA, glawcoma etc.
Niwralgiau
Niwralgiau trigeminol
Poen wyneb canolog neu sylfaenol
Er bydd y modiwl yn mynd ymlaen i drafod nifer o’r rhain yn fanwl, mae Dosbarthiad Anhwylderau Cur Pen Rhyngwladol, 3ydd Argraffiad (fersiwn beta) yn disgrifio pob un o’r rhain a’r is-grwpiau mewn manylder trylwyr. Nid yw’r grŵp sydd yn datblygu’r canllawiau yn argymell bod yr adnodd yn cael ei ddefnyddio i ddysgu am yr holl is-grwpiau gwahanol, ond yn hytrach fel deunydd cyfeirio, petai anhawster diagnostig yn codi.