Cur pen mewn pobl dros 12 oed

Mae cyffredinolrwydd oes cur pen yn 100% i bob pwrpas ac amcangyfrifir bod cur pen yn achosi problem o leiaf un waith ym mywyd 40% o’r boblogaeth. Mae’n gyflwyniad cyffredin mewn Practis Cyffredinol a gall achosi anhawster diagnostig. Dylai’r Meddyg Teulu geisio dosbarthu’r math o gur pen a diystyru’r achos difrifol anaml.

Gellir dosbarthu cur pen yn

  • Cur pen sylfaenol
  • Cur pen eilaidd
  • Niwralgiau

Cur pen sylfaenol

Cur pen math tensiwn

Mae hyd at 70% o’r boblogaeth yn dioddef cur pen math tensiwn neu “arferol” ar ryw adeg yn ystod eu bywyd. Yn amlach na pheidio mae’n ysbeidiol, yn fyrhoedlog ac yn anaml. Mae aetioleg cur pen math tensiwn yn anhysbys. Yn flaenorol tybiwyd bod ffactorau seicogenig yn gysylltiedig, ond mae astudiaethau mwy diweddar wedi dangos y gallai ffactorau niwrofiolegol fod yn gysylltiedig. Yn y mathau mwyaf difrifol gall fod yna sensitifrwydd i deimlo’r cyhyrau creuanol. Mae yna nifer o achosion pan fo straen yn gysylltiedig (e.e. y cur pen sydd yn gwaethygu yn ystod y dydd) ac eraill pan fo cysylltiad cyhyrysgerbydol.

Gall yr effaith ar y claf dibynnu ar is fath y cur pen:-

Ysbeidiol anaml

  • Is-grwp mwyaf cyffredin
  • Cur pen llai na unwaith y mis
  • Teimlad o bwyso neu dynhau (ddim yn curo)
  • Ddim yn cael ei waethygu gan weithgaredd dwysedd isel
  • Fel arfer ddim angen ymyrraeth feddygol

Ysbeidiol aml

  • Penodau o gur pen wedi eu gwahanu gan ddyddiau clir
  • Teimlad o bwyso neu dynhau (ddim yn curo)
  • Ddim yn cael ei waethygu gan weithgaredd dwysedd isel
  • Mwy nag unwaith y mis

Cronig

  • Mwy na 15 diwrnod y mis
  • Gall fod yn ddyddiol
  • Teimlad o bwyso neu dynhau (ddim yn curo)
  • Ddim yn cael ei waethygu gan weithgaredd dwysedd isel
  • Gall achosi anabledd sylweddol i’r claf
  • Gall y cyhyrau creuanol fod yn ddolurus

Meigryn

Mae meigryn yn anhwylder cyffredin. Gall anablu pobl, ac mae Arolwg Baich Clefydau Byd-eang 2010 yn ei nodi fel y seithfed achos mwyaf penodol o anabledd yn fyd-eang.

Mae meigryn wedi ei ddosbarthu ymhellach i feigryn gydag awra a meigryn heb awra. Mae dosbarthiad IHS yn ei rannu eto i fwy nag 20 o is fathau a gall fod yn ddefnyddiol fel offeryn cyfeirio

Bydd claf meigryn nodweddiadol yn adrodd am  gur pen ysbeidiol mynych. Efallai byddant yn cael eu disgrifio fel rhai unochrog gyda dwysedd cymedrol i ddifrifol. Efallai y byddant yn disgrifio symptomau gastroberfeddol (cyfog, chwydu neu deimlo’n llawn) a'r angen i gyfyngu ar weithgaredd neu gymryd lloches mewn ystafell dawel dywyll. Efallai byddant yn disgrifio’r cur pen fel un sydd yn curo gyda churiad y galon. Fel arfer mae cur pen meigryn yn para am rhwng 4 a 72 awr ac ni fydd  yr unigolyn yn dioddef y symptomau rhwng ymosodiadau.

Gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng meigryn heb awra a chur pen math tensiwn, ac mewn gwirionedd, pan fo’r ddau gyflwr yn cydfodoli gellir colli’r meigryn (yn arbennig pan fo dwysedd y meigryn yn isel).

Meini prawf diagnostig y Gymdeithas Gur Pen Ryngwladol ar gyfer meigryn heb awra yw:-

A. O leiaf 5 ymosodiad sydd yn bodoli meini prawf B-D

B. Ymosodiadau cur pen sydd yn para am 4-72 awr (heb ei drin neu heb ei drin yn llwyddiannus)

C. Mae gan y cur pen o leiaf ddau o’r nodweddion canlynol:-

  1. lleoliad unochrog
  2. teimlad o guro (h.y. yn amrywio gyda churiad y galon)
  3. dwysedd poen cymedrol neu ddifrifol
  4. gwaethygu gan weithgareddau corfforol arferol, neu’n achosi’r claf i osgoi hynny (e.e. cerdded neu ddring grisiau)

D. yn ystod y cur pen, o leiaf un o’r canlynol:-

  1. Cyfog a/neu chwydu
  2. ffotoffobia a ffonoffobia

E. Ddim wedi ei briodoli i anhwylder arall (nid yw hanes ac archwiliad yn awgrymu anhwylder cur pen eilaidd neu, os ydynt, mae hynny’n cael ei ddiystyru gan ymchwiliadau priodol neu oherwydd nad yw ymosodiadau cur pen yn digwydd am y tro cyntaf mewn perthynas arleisiol agos â’r anhwylder arall)

Fel arfer mae’n hawdd gwahaniaethu rhwng meigryn gydag awra a mathau eraill o gur pen. Mae awra yn effeithio ar tua thraean o ddioddefwyr meigryn a gall y symptomau amrywio.

Meini prawf diagnostig y Gymdeithas Gur Pen Ryngwladol ar gyfer meigryn gydag awra yw:-

A. O leiaf dau ymosodiad sydd yn bodloni meini prawf B ac C

B. Un neu ragor o’r symptomau awra canlynol y gellir eu dadwneud yn llwyr:

  1. Gweledol
  2. Synhwyraidd
  3. lleferydd a/neu iaith
  4. echddygol
  5. coesyn yr ymennydd
  6. retinol

C. O leiaf dau o’r pedwar nodwedd canlynol:-

  1. mae o leiaf un o’r symptomau awra yn ymledu’n raddol dros  ≥5 munud, a/neu mae dau neu ragor o’r symptomau yn digwydd yn olynol.
  2. mae pob symptom awra unigol yn para am 5-60 munud
  3. mae o leiaf un symptom awra yn unochrog
  4. mae’r awra yn cael ei ategu gan neu yn cael ei olynu o fewn 60 munud gan gur pen.

D. Nid yw diagnosis ICHD-3 arall wedi ei briodoli’n well, a diystyriwyd ymosodiad ischaemig byrhoedlog.

Nodiadau:

  1. Pan fo, er enghraifft, tri symptom yn digwydd yn ystod awra, y cyfnod derbyniol hiraf yw 3x60 munud. Gall symptomau echddygol bara am hyd at 72 awr.
  2. Mae affasia bob amser yn cael ei ystyried fel symptom unochrog; gall dysarthria fod yn unochrog neu ddim.
    Diffinnir awra fel y cymhlyg o symptomau niwrolegol sydd yn gysylltiedig â’r meigryn. Fel arfer maent yn digwydd 5-60 munud cyn cyfnod y cur pen, ond gall barhau i mewn i gyfnod y cur pen neu esblygu ar ôl i’r cur pen fod yn bresennol. Fel arfer maent yn gwaethygu ar y cychwyn ac yn gwella cyn i’r cur pen leddfu. Gall awra ddigwydd heb gyfnod cur pen ac mae hynny yn fwy cyffredin ymysg pobl hŷn.

Mae awra gweledol yn digwydd mewn dros 90% o bobl sydd yn dioddef meigryn gydag awra. Yn gyffredinol mae’n ymddangos fel sgotoma hemianopig ymledol. Bydd y claf yn disgrifio (neu’n llunio) aflonyddwch gweledol siâp igam-ogam neu gilgant a gall befrio (fideo clinig Mayo)

Mae awra o fathau eraill yn llai cyffredin a gallent gynnwys pinnau mân unochrog neu ddiffyg teimlad (yn fwyaf cyffredin yn yr wyneb neu yn yr aelodau uwch) a gall dysffasia neu hyd yn oed affasia ddigwydd. Os bydd gwendid echddygol yn bodoli bydd y meigryn yn cael ei isddosbarthu eto fel un o fath hemiplegig.

Dylid atgyfeirio pobl sydd yn dioddef awra am gyfnod estynedig (mwy na 1 awr neu sydd yn para ar ôl i’r cur pen leddfu). Pan fo’r awra yn cynnwys symptomau echddygol, mae’n rhaid diystyru achosion eraill (e.e. TIA mewn cleifion hŷn). Yr is-grŵp arall sydd angen eu hatgyfeirio yw’r rhai â meigryn cronig (cur pen meigryn yn ddyddiol).

Nid yw dulliau atal cenhedlu mormonaidd cyfun yn addas i ferched sydd y dioddef meigryn gydag awra.

Cur pen clwstwr

Mae cur pen clwstwr yn gyflwr nychus, efallai bydd y dioddefwr yn cael hyd at 8 ymosodiad o gur pen bob dydd. Mae’r boen yn gwbl unochrog ac ysgogir y system nerfol awtonomig parasympathetig yn unochrog. Disgrifir y boen fel un eithafol a bydd pobl yn cerdded nôl a mlaen a hyd yn oed taro eu pennau nes bydd y boen yn diflannu. Mae cymhareb nifer yr achosion mewn dynion a merched yn 3:1

Mae cur pen clwstwr fel arfer yn canolbwyntio o gwmpas y llygaid ond gall o boen ymledu yn uwch-greuol neu hyd yn oed i’r arlais. Efallai y gellir ystyried bod yr aflonyddwch parasympathetig cysylltiedig yn chsistrelliad cysylltiol a /neu’n ddagreuad, caethder ffroenol a/neu ffroenlif, oedema amrannau, chwysu o’r talcen a’r wyneb, fflysio yn y talcen a’r wyneb, teimlad o lawnder yn y glust neu fiosis a/neu ptosis.

Bydd cur pen clwstwr unigol yn para o 15 munud hyd at 3 awr. Mae’r cur pen fel arfer yn taro mewn clystyrau sydd yn para am wythnosau neu fisoedd gyda chyfnodau o ryddhad am fisoedd neu flynyddoedd rhyngddynt (mae 25% o gleifion yn cael un cyfnod y glwstwr). Mae 10-15% o gleifion yn cael cur pen clwstwr cronig heb gyfnodau o ryddhad.

Parocsysmal hemicranias

Cur pen sylfaenol anghyffredin sydd yn cael ei nodweddu gan boen unochrog difrifol nad yw’n para’n hir (2-30 munud) ond sydd yn taro nifer o weithiau bob dydd (5 neu fwy). Mae’r symptomau yn debyg i gur pen clwstwr gyda’r aflonyddwch parasympathetig fel y disgrifir hynny, ac eto teimlir y boen yn bennaf o gwmpas y llygaid, yn uwch-greuol ac yn yr arlais. Ond nid yw’n digwydd yn amlach ymysg dynion. Maent yn fyrrach ac fe’u hatalir yn llwyr gan ddosau therapiwtig o indomethasin. (Mae hemicrania continua yn amrywiad pan fo’r boen a’r aflonyddwch parasympathetig yn gyson - mae hefyd yn ymateb i indomethasin).


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau