Strwythur y dannedd

Mae dannedd yn eistedd mewn soced esgyrnog sydd ynghlwm i’r asgwrn wrth y ligament periodontol. Mae’r ligament ynghlwm i’r dant drwy’r cementum. Mae gan y ligament periodontol bibellau gwaed ac hefyd mae ffeibrau nerfau synhwyraidd C myelinedig A-δ a’r rhai di-fyelinedig yn ogystal â proprioceptorau. Mae ganddo swyddogaethau cefnogol, atgyweiriol, synhwyraidd ac o ran maeth. Mae presenoldeb propriodderbynyddion yn bwysig wrth geisio cael diagnosis o lle mae'r boen yn debygol o fod yn dod. Mae ffeibrau A-δ  yn gyfrifol am drosglwyddo teimladau o boen siarp a sydyn, fel gorsensitifrwydd deintyddol a pulpitis buan. Mae’r ffeibrau C, oherwydd eu bod nhw’n ddi-fyelinedig, yn trosglwyddo teimladau o boen ‘araf’ fel y gwayw parhaus sydd i’w gael mewn pulpitis yn ddiweddarach.

 

Mae gwreiddyn dant wedi’i wneud o feinwe mân-dyllog, afasgwlaidd wedi’i fwyneiddio o’r enw “dentine”. O fewn y mandyllau microsgopig mae prosesau o gelloedd sydd i’w gweld ym mywyn y dant. Enw’r celloedd hyn yw odontoblastau ac enw’r prosesau cellwlos yw ‘prosesau odontoblast’. Mae proses odontoblast fel arfer yn mynd law yn llaw â ffibrau nerfau A-δ a thybir bod hyn yn cyfrannu tuag at sensitifrwydd yn y dannedd.

Enw rhan ganolog y dant yw’r bywyn ac mae wedi’i wneud o bibellau gwaed, meinwe gysylltiol gan gynnwys ffibroblastau ac odontoblastau, ynghyd â ffibr nerfau A-δ ac C. Mae meinwe’r bywyn yn cynnal ‘bywyd’ mewnol y dant. Oherwydd presenoldeb ffibrau nerfau sydd ond yn derbyn poen ym mywyn y dant, beth bynnag sy’n achosi hynny boed yn rhywbeth poeth, oer neu gyffyrddiad er enghraifft, dim ond ymateb gyda ‘phoen’ fydd meinwe’r bywyn.

Mae corun y dant wedi’i orchuddio gan enamel, sef haen warchodol o feinwe wedi’i fwyneiddio’n neilltuol. Mae’r enamel yn afascwlaidd ac yn cynnwys 90% hydroxyapatite. Ei swyddogaeth yw gwarchod y strwythurau mewnol, y dant a’r bywyn, rhag trawma thermol, corfforol, cemegol a bacteria.


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau