Sensitifrwydd syml a niwed i arwynebedd y dant

Mae sensitifrwydd syml yn gyflwr cyffredin iawn ac mae’n digwydd oherwydd dod i gysylltiad â'r dant a’i fandyllau. Mae nifer yr hysbysebion teledu past dannedd sy’n sôn am geisio rheoli sensitifrwydd yn dyst bod y cyflwr hwn yn un cyffredin. Mae dant yn gallu cael ei niweidio gan y canlynol:

  1. Trawma uniongyrchol fel torri dant yn dilyn cwymp neu ddamwain.
  2. Yr enamel gwarchodol yn gwisgo oherwydd sylweddau asidig, er enghraifft sudd ffrwythau a diodydd carbonedig neu gynnwys gastrig. Mae canfod enamel wedi gwisgo yn nhop y geg (taflodol) yn rhywbeth sy’n gyffredin ymysg cleifion â bulimia.  Mae ôl gwisgo ar amryw o arwynebeddau enamel yn aml yn cael ei weld mewn cleifion sy’n camddefnyddio alcohol neu sy’n cnoi bwydydd asidig fel orennau.
  3. Dirywiad yn enamel y dant yn sgil crensian dannedd heb fod yn cnoi bwyd. Mae hyn yn rhywbeth cyffredin sy’n gysylltiedig â straen a phryder. Mae’r grymoedd yn llawer mwy wrth grensian dannedd yn ystod y nos nag sy’n digwydd yn arferol.
  4. Crafiadau gan sylweddau allanol fel bara o flawd cras neu weithio mewn amgylchedd sy’n cynhyrchu llwch sgrafellog fel gwaith sment. Gall techneg brwsio dannedd gwael hefyd achosi niwed i’r dant yn enwedig lle mae’r dant a’r deintgig yn uno.
  5. Mae pydredd dannedd yn cael ei achosi gan effaith asid sy’n cael ei gynhyrchu gan facteria pan fo carbohydradau’n eplesu yn y geg. Mae achosion buan o bydredd dannedd yn gallu golygu bod y dannedd yn sensitif cyn arwain at boen dannedd mwy amlwg  (a hynny dros gyfnod o wythnosau a misoedd yn hytrach nag oriau).

Gellir rheoli sensitifrwydd drwy ganfod yr achos; cael gwared â'r achos a lle gwelir hynny, adfer sylweddau sydd ar goll yn y dant trwy broses adfer neu drwy ddefnyddio cyfrwng i gael gwared â sensitifrwydd.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau