Pericoronitis difrifol

Mae pericoronitis difrifol yn golygu chwyddiant y meinweoedd o amgylch corun dant wrth iddo echdorri i’r geg. Fel arfer mae operculum (fflap o ddeintgig) sy’n gorwedd dros hanner distal y dant lle mae bwyd yn gallu cael ei ddal yno. Dyma amgylchedd ffafriol i dwf bacteria, yn enwedig organebau anaerobig. Gallai arwyddion a symptomau clinigol gynnwys teimlo’n sâl, tymheredd uchel; trismus (methu ag agor y geg yn iawn); wyneb yn chwyddo; blas drwg a chyfog. Bydd arwyddion o ddiffyg hylif yn bresennol yn enwedig mewn tywydd cynnes.

Mae risg o beryglu’r llwybr aer wrth i’r haint ledaenu felly mae’n bwysig asesu’r risg drwy ofyn a yw’r claf yn gallu llyncu poer a/neu wthio eu tafod allan. Os na allan nhw wneud hynny, yna dylid mynd yn syth i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys.

Mae modd rheoli heintiau nad ydyn nhw’n peryglu’r llwybr aer drwy roi tabledi lleddfu poen addas a rinsio’r geg â chegolch chlorhexidine 0.2%. Mewn achosion lle mae’r haint wedi lledaenu sydd ddim yn effeithio ar y llwybr aer, ond yn cynnwys trismus, tymheredd uchel a/neu wyneb wedi chwyddo, yna mae’n briodol rhoi presgripsiwn ar gyfer gwrthfiotigau yn enwedig metronidazole.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau