Gwrtharwyddion
Er mwyn helpu gweithwyr iechyd proffesiynol i gynghori cleifion cyn cynyddu gweithgarwch corfforol, mae rhestr gydnabyddedig o rybuddion yn erbyn gweithgarwch corfforol: dylid sgrinio cleifion ar sail y rhestr hon ac, os oes unrhyw wrtharwyddion, rhaid trin yr anhwylder cyn dechrau’r gweithgarwch. Datblygwyd y rhain ar gyfer adsefydlu cardiaidd a sgrinio iechyd cyn cymryd rhan mewn gweithgarwch.
Rhybuddion yn erbyn atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff 16
- Angina ansefydlog,
- Pwysedd gwaed systolig ≥ 180 mmHg a/neu bwysedd gwaed diastolig ≥ 100 mmHg,
- Dangos gostyngiad mewn pwysedd gwaed o > 20 mmHg yn ystod prawf goddef ymarfer,
- Tacycardia wrth orffwys > 100 bpm,
- Arhythmia atrïaidd neu fentriglaidd heb ei reoli,
- Methiant ansefydlog neu acíwt y galon
- Diabetes ansefydlog
- Salwch twymynol
Nodir rhagofalon eraill ar gyfer ymarfer yn yr adrannau perthnasol yn y taflenni ffeithiau eraill.
Dyfynnwyd y rhybuddion yn erbyn gweithgarwch corfforol o
BACR 2006 Phase IV Exercise Instructor Training Manual ac ACSM (2009) Guidelines for Exercise Testing and Prescription (dyfynnwyd 20 Hydref 2018). Ar gael yn: http://www.bacpr.com/resources/BACPR_Protocol.pdf
Ymwadiad
Nid yw gweithwyr iechyd proffesiynol wedi'u hyfforddi i roi rhaglenni ymarfer corff i
unigolion ac ni fwriedir i'r adnodd hwn annog unrhyw un i fynd y tu hwnt i'w brofiad ei hun. Fodd bynnag, mae tywys rhywun i gerdded, nofio, beicio neu ddawnsio o fewn gallu pawb.
Pennod 16 - Gwrtharwyddion Taflen ffeithiau - lawrlwytho
Cyfeiriadau: Gellir eu gweld ym mhennod 18
These factsheets are endorsed by the Royal College of General Practitioners (RCGP), British Association of Sport & Exercise Medicine (BASEM) and the Royal College of Nursing (RCN).
Adborth
Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen hon, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.