Dechrau arni
I nifer mae cynyddu gweithgaredd corfforol yn anodd, ac yn aml mae angen cefnogaeth a syniadau ynghylch integreiddio gweithgaredd i fywyd bob dydd.
Mae yna nifer o ffyrdd o gynyddu gweithgaredd a cherdded yw un o’r rhai hawsaf. Os yw’n ymddangos bod 30 munud gyda’i gilydd yn ormod, rhowch gynnig ar gyfnodau byr yn ystod y dydd, megis 10 munud a cheisio adeiladu ar hynny dros gyfnod o amser. Er enghraifft:
- Gadewch y car gartref ar gyfer teithiau byrion i’r siop neu i weld ffrindiau.
- Cerddwch i’r ysgol gyda’r plant pan fyddwch yn gallu gwneud hynny
- Pan fyddwch yn defnyddio’r car, parciwch y car ym mhen pellaf y maes parcio
- Os ydych y cymudo, ewch oddi ar y trên neu’r bws un neu ddau stop yn gynnar er mwyn cerdded ychydig i’r gwaith.
- Dylech osgoi defnyddio lifft - defnyddiwch y grisiau
- Defnyddio desg sefyll i weithio arni, gellir defnyddi’r rhain wrth sefyll neu eistedd oherwydd mae ganddynt system hydrolig.
- Codwch oddi wth y ddesg a cherdded ar draws y swyddfa i siarad â chydweithiwr yn hytrach na ffonio neu e-bostio.
- Hyrwyddo a chefnogi cyfarfodydd sefyll (mae sefyll yn llosgi 15 calori yr awr o’i gymharu â 5 yr awr wrth eistedd)
- Trefnwch gyfarfod cerdded
- Darllenwch eich tabled ar ben y cwpwrdd ffeilio
- Adref, os oes gennych ffôn diwifr, cerddwch wrth siarad
- Ewch i gyfarfod ffrindiau i fynd am dro
- Defnyddiwch feic ymarfer wrth wylio’r teledu; peidiwch â'i gadw yn yr ystafell sbâr.
O gwmpas y tŷ mae nifer o dasgau yn cynnwys gweithgaredd a gallent eich helpu i ddechrau arni:
- Glanhau a chaboli dodrefn, lloriau a ffenestri.
- Defnyddio’r sugnwr llwch
- Nifer o weithgareddau garddio megis torri’r gwellt neu wrych.
- Brwsio’r iard neu gribinio dail.
- Golchi a chaboli’r car â dwylo.
- DIY - gwaith coed, defnyddio papur tywod, paentio, adeiladu etc.
Mae yna lawer o weithgareddau eraill ond y peth pwysicaf yw canfod math o ymarfer corff sydd yn rhoi mwynhad i’r unigolyn ac sydd yn gymdeithasol a chyraeddadwy.
- Cerdded - cerdded gyda ffrind neu ymuno â grŵp cerdded. Mae gan Walk4life wybodaeth am deithiau cerdded lleol a grwpiau cerdded ar gyfer nifer o ardaloedd. Mae yna hefyd deithiau cerdded iechyd, sydd yn rhai byrion gaiff eu cynnal yn y rhan fwyaf o ardaloedd lleol.
- Seiclo - mae nifer o lwybrau seiclo yn neu wedi cael eu datblygu o gwmpas y DU, ac mae’n weithgaredd hwyliog i’r teulu cyfan. Mae gan Sustrans fap Rhwydwaith Seiclo Cenedlaethol sydd ar gael am ddim
- Seiclo neu gerdded o gwmpas eich parc lleol - gall bod yn yr awyr agored ac mewn man gwyrdd eich helpu i deimlo’n well, mae yna hefyd lawer o bethau i’w gweld, megis bywyd gwyllt, pobl eraill a blodau.
- Dawnsio - mae’n gynyddol boblogaidd, yn gymdeithasol a phleserus ac mae yna nifer o wahanol fathau megis salsa, swmba, dawnsio llinell a dawnsio neuadd.
- Nofio - hwyl traddodiadol i’r teulu ac aerobeg dŵr i rai. Ceisiwch nofio ychydig yn hirach bob tro a cheisiwch beidio cymryd gormod o seibiannau.
- Golff - mae 18 twll yn bum milltir ar y rhan fwyaf o gyrsiau, neu hyd yn oed pitsio a phytio efo plant
- Tennis, sboncen, badminton - nifer o glybiau a chyrtiau o gwmpas y wlad i gael hwyl a chystadlu.
- Pêl-droed- camp fwyaf poblogaidd y wlad, felly ewch allan gyda’ch plant a chicio pêl unwaith eto!
- Mae pêl-droed cerdded yn dod yn boblogaidd, mae’n weithgaredd newydd i bobl hŷn neu rai nad ydynt yn gallu rhedeg mwyach
- Mae crefft ymladd yn boblogaidd ac yn gwella cryfder a hyblygrwydd yn ogystal â ffitrwydd cardiaidd
- Ioga a Pilates - gweithgareddau rhagorol ar gyfer hyblygrwydd, cryfder craidd ac osgo er mwyn gwella ac atal nifer o broblemau cefn.