Pennod 16 - Dechrau Ymarfer Corff
I nifer o gleifion gall y syniad o ddechrau ymarfer corff fod yn ormod. Tybir ei fod yn anodd, poenus, yn cael ei wneud yn bennaf mewn campfa, ac mai dim ond rhaglenni caled sydd yn arwain at wir fuddion.
Mae’r rhain yn gredoau ffug dylai llawer o’r cyngor fod ynghylch ymgorffori mwy o weithgaredd corfforol i fywyd bob dydd, gyda dewisiadau gwahanol i ymarferion campfa os bydd angen. Bydd yr adran yma yn amcanu at roi canllawiau cryno ar brif egwyddorion ymarfer corff, sut mae dechrau ymarfer corff a gwrthbrofi’r ffug gredoau.