Therapi estrogen

HRT estrogen yn unig, gyda neu heb therapi gwrth-androgen, yw'r brif driniaeth hormonaidd benyweiddio i fenywod 'traws' sydd am drawsnewid yn feddygol.  
 
Mae rhai pobl anneuaidd (ond nid pawb) a bennwyd yn wrywaidd ar eu genedigaeth (AMAB) yn dewis therapi estradiol dos isel dan arweiniad arbenigol.  
 
Ystyrir mai'r paratoadau mwyaf diogel yw estradiol valerate ac estradiol hemihydrate. Nid yw triniaethau mwy pro-thrombotig, fel ethynylestradiol ac estrogenau ffurfdroadol o geffylau (e.e. Premarin), yn cael eu hargymell erbyn hyn ac ni ddylid eu rhagnodi.  Pills

Yn y DU nid oes rôl i ddefnyddio progestogenau yn y cyd-destun hwn. Mae HRT mewn cyfuniad yn gysylltiedig â risg uwch o thrombosis2clefyd cardiofasgwlaidd3a chanser y fron4, ac ar hyn o bryd nid oes digon o dystiolaeth bod progestogenau'n cynnig manteision ychwanegol o ran datblygiad bronnau. 

Mae estrogen yn cael ei ditradu'n araf er mwyn cyflwyno'r newidiadau sy'n gysylltiedig â'r glasoed mewn menywod. Nod y driniaeth yn y cyd-destun hwn yw cynhyrchu lefel serwm gwaed estradiol rhwng 350-750pmol/L.1

Mae triniaethau drwy'r geg yn fwy thrombogenaidd oherwydd "effaith metabolism cyn-systemig" na thrwy'r croen, a'r risg o thromboembolism yn dibynnu ar y dos. 

Mae HRT wedi'i ddodi ar y croen yn gysylltiedig â risg is o thrombo-embolism5a gall fod yn opsiwn cyntaf, yn enwedig i bobl dros 40 oed, pobl sy'n ordew a rhai sy'n parhau i ysmygu. 

Mae'r rhan fwyaf o bobl ar therapi adfer hormonau (HRT) gydol oes oni bai fod cymhlethdodau meddygol yn codi. Nid oes cyfiawnhad dros orfodi peidio parhau am resymau oed yn unig. Os bydd cymhlethdodau meddygol fel thrombosis, strôc, clefyd y galon neu ddiagnosis o ganser yn codi, dylid gofyn am gyngor arbenigol. 

Nid oes llawer o astudiaethau o oedolion hŷn, ond yn achos rhai sydd am leihau eu dos wrth gyrraedd y menopôs, ystyrir bod cynnal serwm estriadol o tua 200pmol/L yn ddigon i warchod yr esgyrn a chynnal benyweiddio.  

Mae sganio DEXA yn tueddu i gael ei neilltuo ar gyfer pobl gyda risg uwch o osteoporosis, ac nid yw'n cael ai argymell i bawb. Fodd bynnag, mae Ca/Fitamin D yn aml yn cael ei annog oherwydd mae diffyg Fitamin D yn ymddangos i fod yn gyffredin yn y grŵp hwn. 

 

Therapi gwrth-androgen 

Yn ogystal â therapi estrogen, bydd angen meddyginiaeth gwrth-androgen ar y rhan fwyaf o fenywod 'traws' sydd angen atal lefelau testosteron. Yn y DU fel arfer mae hyn ar ffurf pigiad gweithydd GnRH. Mae gweithydd GnRH yn ysgogi am gyfnod byr, yna'n lawr-reoleiddio rhyddhau FSH a LH o'r chwarren bitẅidol, gan felly gau lawr unrhyw destosteron a gynhyrchir o'r gonadau. Cyflwynir y driniaeth hon fel arfer ychydig ar ôl i therapi estrogen ddechrau er mwyn lliniaru symptomau menopôs a cholli dwysedd mwynol o'r esgyrn.  

Mae gweithyddion GnRH gan amlaf yn cael eu goddef yn dda ac yn rhagofynnol cyn unrhyw lawdriniaeth genital fel bo'r claf yn gallu profi therapi milieu hormonaidd disbaddu mewn ffordd gildroadwy. Mae nifer fach o gleifion yn dweud eu bod yn colli ffantasïau rhywiol ac awydd am gyfathrach rywiol (nodweddion anhwylder awydd rhywiol hypoactif) a gallai fod angen therapi ail-ychwanegu testosteron dan arweiniad arbenigol. 

Bydd pigiad GnRHa yn adfer lefelau testosteron i'r amrediad benywaidd 0-3nmol/L. 

Un dewis gwrth-androgen arall drwy'r geg yw Finasteride. Mae hwn yn atal troi testosteron yn DHT (dihydrotestosteron) sy'n llawer cryfach, ac er yn llawer llai effeithiol fel triniaeth gwrth-androgen, mae weithiau'n ddewis gan bobl a bennwyd yn wrywaidd ar eu genedigaeth sydd ddim eisiau nac angen atal lefelau testosteron yn llwyr (er enghraifft, am gadw peth perfformiad codiad) ac i rai nad ydynt am golli mwy o wallt o'r corun.  

Mae rhai pobl anneuaidd (ond nid pawb) a bennwyd yn wrywaidd ar eu genedigaeth (AMAB) yn dewis monotherapi gwrth-androgen dan arweiniad arbenigol. 

Mae Spironolactone (Aldactone) and Cyproterone acetate (Androcur, Cyprostat, Dianette) yn ddwy driniaeth gwrth-androgen a brynir yn aml ar y we gan rai sy'n hunan-feddyginiaethu. Mae Spironolactone yn effeithio ar gydbwysedd electrolytau, mae'n ddiwretig ac yn ymddangos i effeithio'n negyddol ar ddatblygiad bronnau. Mae Cyproterone acetate yn gysylltiedig a chamweithrediad hepatig ac iselder6.Nid yw'n cael ei ddefnyddio'n aml yn y DU yn y cyd-destun hwn. 

 

* Yr amrediad targed cymeradwy yn ‘Hembree WC, et al. Endocrine Treatment of Gender-Dysphoric/Gender-Incongruent Persons: An Endocrine Society Clinical Practice Guideline. The Journal of Clinical Endocrinology & Metabolism, Pennod 102, Rhifyn 11, 1 Tachwedd 2017, Tud. 3869–3903’, yw 100-200pg/ml (367-734pmol/L)

* Mae Cyproterone acetate 100mg OD yn cael ei ddefnyddio fel triniaeth tymor byr i wrthweithio'r fflêr testosteron sy'n dilyn y pigiad agonydd GnRH cyntaf.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau