Iechyd trawsryweddol – Trosolwg

Gyda'r galw am wasanaethau Hunaniaeth Ryweddol yn cynyddu yn y DU, mae'n dilyn y bydd mwy a mwy o feddygon teulu'n dod ar draws pobl 'draws' ac anneuaidd ar lwybr o drawsnewid yn ffurfiol dan ofal y GIG. Mae yna hefyd unigolion yn chwilio am gymorth naill ai drwy'r system breifat, neu'n hunan-feddyginiaethu'n anffurfiol drwy brynu dros y we. Mae'r senario olaf wedi arwain at gryn bryder yn y gymuned gofal iechyd ehangach.

Doctor and patient

Mae tystiolaeth dda i ddangos bod cymorth meddygol drwy hormonau a llawdriniaeth yn gwella lles, gan gynnwys drwy leihau gorbryderu, iselder, meddwl am hunanladdiad a chamddefnyddio sylweddau.1

I'r mwyafrif llethol o bobl ar therapi hormonau, bydd y driniaeth yn un gydol oes. Mae ystyriaethau meddygol a chymdeithasol pan fo'n fater o roi sylw i anghenion y bobl hyn wrth iddynt fynd yn hŷn.

Mae'r modiwl ar Amrywiaeth Rhyweddol yn tywys dysgu sgiliau ymgynghori cadarnhaol drwy wella dealltwriaeth o derminoleg ac iaith, cyflwyniadau a hunaniaethau rhyweddol, ac ystyriaethau gweinyddol a chyfreithiol yn y cyd-destun hwn.

Dyluniwyd y modiwl hwn i roi trosolwg ar ymyriadau cadarnhau rhywedd yn ogystal ag ystyriaethau ar gyfer gwella iechyd rhywiol ac atgenhedlu o bersbectif gofal sylfaenol.

I ddechrau ar y modiwl, dylech gychwyn gyda'r Cwestiynau Dewis Lluosog (MCQ) cyn-brawf.

Yna byddwch yn gweithio drwy astudiaethau achos i gadarnhau eich dysgu cyn ail-sefyll yr MCQ.


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau