Eich astudiaethau achos
Nawr rydym am gyflwyno rhai enghreifftiau o astudiaethau achos o drafodaethau pan fo’r meddyg yn mynd i geisio ysgogi ei glaf i gymryd y brechlyn ffliw. Bydd y meddyg yn defnyddio rhai o’r sgiliau a drafodwyd yn y modiwl yma - dylech geisio eu hadnabod, sef codi’r mater, defnyddio cwestiynau penagored, gwrando myfyriol a dangos empathi.
-
Ar ôl i chi ddarllen y sgript, ystyriwch:
Sut fu i’r meddyg godi’r mater
“A fyddech yn meindio i mi godi un mater arall heddiw?”
Sut mae’r meddyg yn defnyddio cwestiynau penagored
“Beth yw eich teimladau ynghylch cael y brechlyn eleni?”
Sut y defnyddiodd y meddyg ddulliau cadarnhau
“Mae’n swnio i mi eich bod yn fwy agored i ystyried cael y brechlyn petaech yn llai poenus”
Sut mae’r meddyg wedi defnyddio gwrando myfyriol
“Lwcus, mae hynny’n dda”
Sut y parhaodd y meddyg i ddangos empathi
Ni ddywedodd “Rwy’n gwybod beth wyt ti’n feddwl”
Nesaf rydym am edrych ar astudiaeth achos arall a byddir yn dangos i chi ar ba adegau fydd y meddyg yn defnyddio’r technegau a drafodir yn y ddogfen hon. Noder bod pob datganiad a wneir gan y meddyg yn cael ei ddilyn gan gwestiwn penagored, gan annog y claf i deimlo’n rhan o’r broses benderfynu.