Cefndir y brechlyn

Pwrpas y modiwl yma yw eich cefnogi a’ch cynghori chi o ran cynnal trafodaeth gadarnhaol gyda’ch cleifion ynglŷn â’r brechlyn ffliw drwy ddefnyddio ymyrraeth gryno/technegau cyfweld ysgogiadol allai fod o fudd i chi o ran cynyddu’r niferoedd sydd yn cymryd y brechlyn ffliw ar adegau oportiwnistaidd gyda’ch cleifion. 

Y diben yw gallu cynnal trafodaethau sydd yn darparu deilliannau effeithiol ac ymgysylltiol mewn fformat penagored, anfeirniadol, gwrandawus a chyfathrebol.

Mewn perthyna â’r brechlyn ffliw, yn aml mae yna anhawster o ran creu effaith arwyddocaol o ran cynyddu’r niferoedd sydd yn ei chymryd. Mewn grwpiau penodol, megis oedolion hŷn ac unigolion sydd â chlefydau/cyflyrau cronig, a hyd yn oed bod polisïau wedi eu sefydlu a bod brechlynnau diogel ac effeithiol ar gael, mae bron bob gwlad yn dioddef oherwydd amharodrwydd i gymryd brechlyn, hynny yw oedi o ran derbyn neu wrthod brechlyn. 

Gall gwrthod brechlyn ddeillio o hanfodlonrwydd, diffyg hyder neu ystyried y manteision a’r anfanteision yn rhesymol. Dylem wneud pob ymdrech i ganolbwyntio ar ysgogi’r hunanfodlon, dileu’r rhwystrau i’r rhai sydd yn ystyried bod y brechlyn yn anghyfleus. Gellir ystyried bod y rhwystrau yma yn ‘borthorion’ ac er bod y rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod brechlynnau yn bwysig, bydd materion personol eraill yn bwysicach a bydd trefnu apwyntiad i gael brechiad yn llai pwysig na rwymedigaethau eraill. Nid yw’r rhan fwyaf o agweddau unigolion yn gryf yn erbyn nac o blaid y brechlyn yn yr achos yma, sydd yn golygu na thybir fod y brechlyn yn ddigon pwysig er mwyn goresgyn eu rhwystrau. O ganlyniad i hynny, pa fo penderfynwyr yn wynebu rhwystrau megis diffyg mynediad, cost neu deithio, maent yn gwrthod y brechlyn er mwyn osgoi heriau o’r fath.

Dyma pan fo gwneud y mwyaf o adegau oportiwnistaidd yn ystod eich apwyntiadau gyda’ch cleifion yn dod yn flaenoriaeth. Dylai’r dewis o iaith fod yn bwysig oherwydd gall gorbwysleisio’r risg fod yn anghymhelliant. Mae’r ffordd y cyflwynir dewisiadau ac opsiynau i unigolion yn effeithio ar y ffordd maent yn gwneud penderfyniadau. Mae pa wybodaeth a roddir yn bwysig, ond hefyd sut y darperir y wybodaeth honno. Mae angen i ymarferwyr egluro’r buddion wrth geisio newid ymddygiadau cleifion a chymharu hynny gyda’r anfanteision, fel y gellir eu hasesu yn ddiriaethol.

Yn achos nifer o ymddygiadau cysylltiedig ag iechyd, mae fframio gwybodaeth fel manteision yn erbyn anfanteision yn arwain at effeithiau gwahanol ar ymddygiadau. Yn achos unigolion â risg uchel o gael ffliw, roedd neges oedd yn fframio’r manteision (mae brechlyn ffliw yn effeithiol mewn 80% o achosion) yn fwy effeithiol na neges oedd yn fframio anfanteision (mae brechlyn ffliw yn aneffeithiol mewn 20% o achosion). 

Er ei bod yn bwysig bod asiantaethau iechyd cyhoeddus yn egluro’r risgiau sydd yn gysylltiedig ag afiechydon y gall brechlyn eu hatal, ni chynghorir creu ofn am resymau perswadiol. Y syniad yw bod unigolion yn arddel ymddygiadau rhagweithiol pan eu bod yn teimlo bygythiad neu risg, hynny yw, os ydynt yn tybio lefelau uchel o risg o afiechyd, byddant yn fwy tebygol o gael brechlyn; os ydynt yn tybio eu bod wedi eu gwarchod gan lefelau uchel o frechu o’u cwmpas, efallai na fyddant yn cymryd y brechlyn. 

Mae brechu wedi lleihau baich clefydau heintus yn fawr iawn. Dim ond dŵr glân, sydd yn cael ei ystyried hefyd fel hawl dynol elfennol, sydd yn perfformio’n well. Mae WHO yn nodi bod brechu yn achub tua 2 i 3 miliwn o fywydau bob blwyddyn. 

Fel arfer mae unigolion sydd heb ddigon o hyder i gael eu brechu yn meddu ar swm sylweddol o wybodaeth anghywir sydd yn cymylu tybiaethau am risg ac sydd yn tanseilio ymddiriedaeth gyffredinol mewn brechu. 

Mae’n allweddol bod ymyriadau yn amcanu at ddarparu gwybodaeth gywir o ffynonellau dibynadwy. Felly mae meddygon yn hanfodol.


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau